Cyn eich archwiliad meddygol ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd, mae'n beth da meddwl am sut mae eich salwch neu'ch anabledd yn effeithio ar eich bywyd beunyddiol.
Efallai yr hoffech feddwl am y pethau hyn er mwyn paratoi ar gyfer yr archwiliad meddygol:
Bydd y derbynnydd yn y Ganolfan Archwiliadau Meddygol yn gofyn am weld dogfennau sy'n cadarnhau mai chi yw'r person y gofynnwyd iddo/iddi ddod yno.
Bydd eich pasport, os oes gennych un, yn ddogfen ddigonol ar ei phen ei hun - neu fe ofynnir i chi ddangos tair dogfen, er enghraifft, eich tystysgrif geni, trwydded yrru lawn, eich polisi aswiriant bywyd a datganiadau banc.
Dylech hefyd ddod ag unrhyw dabledi neu feddyginiaeth rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd ac unrhyw gymhorthion a chyfarpar syml rydych chi'n eu defnyddio megis sbectol neu gymorth clyw.
Bydd yr archwiliad meddygol yn golygu cyfweliad ac weithiau archwiliad corfforol, os bydd y meddyg yn teimlo bod angen un.
Mae'r archwiliad yn debygol o fod yn wahanol i'r hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan eich meddyg teulu eich hun. Nid bwriad archwiliad meddyg y Gwasanaethau Meddygol yw rhoi diagnosis neu drafod sut mae trin eich cyflwr meddygol; ei bwrpas yw asesu sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi ac mae'n bosib na fydd rhaid i'r meddyg wneud archwiliad corfforol.
Fel canllaw bras, fe ddylech ganiatáu oddeutu awr ar gyfer eich archwiliad. Weithiau, fe ellir cwblhau archwiliadau meddygol mewn llai o amser o lawer, yn enwedig os mai dim ond ar un broblem benodol y bydd y meddyg yn edrych.
Fel arfer, bydd y meddyg yn dechrau drwy holi'n fras am eich hanes, gan gynnwys:
Os ydych chi'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd oherwydd problem iechyd meddwl neu anabledd corfforol a allai effeithio ar eich iechyd meddwl, fe allai'r meddyg ofyn i chi am:
Ar ôl y cyfweliad, mae'n bosib y bydd y meddyg yn penderfynu y byddai archwiliad corfforol o gymorth. I ddechrau, byddan nhw'n esbonio beth fydd hyn yn ei olygu ac yn gwneud yn siur eich bod yn hapus i'r archwiliad fynd rhagddo. Mae'n bwysig dweud wrth y meddyg os byddwch chi'n teimlo unrhyw annifyrrwch. Ni fyddant yn gofyn i chi wneud dim byd sy'n peri poen neu annifyrrwch i chi.
Bydd y meddyg yn llenwi'r adroddiad (IB 85) ar ôl yr archwiliad meddygol. Fel arfer, ni fyddwch yn gweld hwn cyn ei gyflwyno i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Gallwch ofyn am gopi o adroddiad y meddyg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddan nhw'n ei anfon atoch drwy'r post.