O'r dudalen hon gallwch lwytho gwybodaeth am bedwar budd-dal anabledd. Cyflwynir y ffilmiau byr mewn Iaith Arwyddion Prydain a chydag is-deitlau. Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.
Mae'r ffilmiau ar gael mewn dau fformat:
Gan fod y ffilmiau'n cynnwys is-deitlau, ni all Directgov ddarparu maint fideo sy'n addas ar gyfer defnyddwyr modem deialu rhif - fodd bynnag, gellir archebu DVD.
Cliciwch ar y ffeil y dymunwch ei gweld a gallwch naill ai ei chwarae'n 'fyw' neu ei chadw ar eich cyfrifiadur i'w gweld yn hwyrach ymlaen. Os dymunwch lwytho'r ffeil oddi ar y we dylech glicio ar y ddolen gyda botwm de eich llygoden. Yna, dylech weld rhestr o ddewisiadau gan gynnwys 'Cadw'r Targed dan yr enw...' ('Save Target As...') neu 'Cadw'r Ddolen dan yr enw...' ('Save Link As...'). Wrth wneud hyn, dylech allu cadw'r fideo ar eich cyfrifiadur.
Mae'r DVD yn cynnwys y pedwar budd-dal a nodir uchod - mae'n rhad ac am ddim. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion llawn eich cyfeiriad post. Dylai'r DVD gyrraedd o fewn pum niwrnod gwaith.
e-bost: customer.relationsteam@dwp.gsi.gov.uk
Ffacs: 01253 338723
Neu ysgrifennwch at:
Tîm Gwaith y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
Ystafell 111, Bloc 1
Adeiladau'r Llywodraeth
Norcross Lane
Norcross
Blackpool
FY5 3TA
Gellir cael gwybodaeth fanwl am y budd-daliadau hyn - gan gynnwys cyfraddau, ffurflenni cais y gellir eu llwytho a rhifau'r llinell gymorth - drwy ddilyn y dolenni isod: