Lwfans Byw i’r Anabl – pwy sy’n gymwys
Efallai y bydd modd i chi gael y Lwfans Byw i'r Anabl os ydych chi dan 65 oed a'ch bod wedi gorfod cael cymorth gyda gofal personol neu wedi cael anawsterau cerdded oherwydd anabledd corfforol neu feddyliol am dri mis a'ch bod yn debygol o fod angen y cymorth hwn neu gael yr anawsterau hyn am o leiaf chwe mis arall.
Os oes gennych anghenion gofal
I gael elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol fel eich bod:
- angen cymorth gyda phethau fel ymolchi, gwisgo, bwyta, mynd i'r toiled, neu gyfleu eich anghenion
- angen goruchwyliaeth er mwyn eich atal rhag rhoi eich hun ac eraill mewn perygl sylweddol
- angen rhywun gyda chi pan fyddwch ar ddialysis
- yn methu paratoi paratoi a choginio pryd bwyd ar eich cyfer eich hun (petai'r cynhwysion gennych) os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn
Mae tair cyfradd i'r elfen ofal gan ddibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:
- y gyfradd isaf, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch am ran o'r diwrnod neu os nad ydych yn gallu paratoi pryd bwyd
- y gyfradd ganol, os oes angen gofal personol arnoch yn fynych neu oruchwyliaeth drwy gydol y dydd, neu angen cymorth gyda gofal personol neu rywun i'ch goruchwylio yn ystod y nos yn unig, neu rywun gyda chi tra ar ddialysis
- y gyfradd uchaf, os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth yn aml arnoch drwy gydol y dydd a'r nos
Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich anghenion gofal hyd yn oed pan nad oes rhywun yn rhoi'r gofal y mae ei angen arnoch i chi, hyd yn oed os ydych yn byw ar eich pen eich hun.
Os oes gennych anghenion symudedd
I gael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i'ch anabledd fod yn ddigon difrifol i chi fod ag unrhyw un o'r anawsterau cerdded canlynol, hyd yn oed pan fyddwch yn gwisgo neu'n defnyddio cymorth neu gyfarpar yr ydych yn ei ddefnyddio fel arfer:
- os nad ydych yn gallu cerdded neu bron â methu cerdded, neu os nad oes gennych draed neu goesau
- asesir eich bod yn 100% anabl oherwydd nad ydych yn gweld a ddim yn llai na 80% anabl oherwydd byddardod a bod angen i chi gael rhywun gyda chi pan fyddwch yn mynd o'r tŷ
- os oes gennych nam meddyliol difrifol gyda phroblemau ymddygiad difrifol ac yn gymwys ar gyfer y gyfradd uchaf o'r elfen ofal
- gallai'r ymdrech i gerdded fygwth eich bywyd neu effeithio'n ddifrifol ar eich iechyd
- mae angen arweiniad a/neu oruchwyliaeth arnoch gan berson arall pan fyddwch yn mynd o gwmpas mewn mannau sy'n anghyfarwydd i chi
Mae dwy gyfradd i'r elfen symudedd gan ddibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch:
- y gyfradd is, os oes angen arweiniad a goruchwyliaeth arnoch y tu allan i'ch cartref
- y gyfradd uwch, os oes gennych unrhyw rai o'r anawsterau cerdded eraill, mwy difrifol
Efallai y bydd gennych hawl i'r elfen ofal neu'r elfen symudedd, neu gallech fod â hawl i'r ddwy.
Os ydych yn hawlio am blentyn anabl neu blentyn sâl
Mae'n rhaid bod angen llawer mwy o gymorth neu oruchwyliaeth ar eich plentyn nag ar blant eraill o'r un oed.
Gallwch hawlio am anghenion gofal cyn i blentyn gyrraedd tri mis oed, ond ni chaiff budd-dal ei dalu nes i'r plentyn gyrraedd tri mis oed oni chaiff ei dalu dan 'reolau arbennig' (gweler isod).
Gallwch hawlio am anghenion symudedd pan fydd eich plentyn:
- yn dair oed, os nad yw eich plentyn yn gallu cerdded, neu os yw'n cael llawer o drafferth cerdded
- yn dair oed, os asesir bod eich plentyn yn 100% anabl gan nad yw'n gweld a ddim yn llai na 80% anabl oherwydd byddardod
- yn dair oed, os oes gan eich plentyn nam meddyliol difrifol gyda phroblemau ymddygiad difrifol a'i fod yn gymwys ar gyfer cyfradd uchaf yr elfen ofal
- yn bump oed, os oes angen arweiniad neu oruchwyliaeth ar eich plentyn wrth gerdded y tu allan i'w gartref
Rheolau arbennig - os ydych yn derfynol wael
Os oes gennych glefyd gwaethygol ac na ddisgwylir yn rhesymol i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, ceir rheolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Byw i'r Anabl yn gynt ac yn fwy hwylus. Gallwch gael cyfradd uchaf yr elfen ofal yn syth heb orfod aros nes bod angen help arnoch ers tri mis.
Gallwch wneud cais ar ran rhywun dan y rheolau arbennig heb iddynt hwy wybod neu heb eu caniatâd. Os byddant yn bodloni'r amodau perthnasol, byddant yn cael llythyr yn dweud y cânt y Lwfans Byw i'r Anabl, ond ni fydd yn sôn am y rheolau arbennig.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ofalu am rywun sy'n derfynol wael yn yr adran 'gofalu am rywun'.
Eich amgylchiadau
Mae rhai amodau penodol ynglŷn â amgylchiadau eich preswyliaeth a'ch presenoldeb y mae angen i chi eu bodloni i gael y Lwfans Byw i'r Anabl.