Ar ôl i chi gael archwiliad meddygol ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd, anfonir adroddiad y meddyg at y person yn yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gyfrifol am benderfynu am eich hawliad.
Bydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn ystyried yr adroddiad ochr yn ochr â'r holl wybodaeth arall a ddarparwyd ar gyfer eich hawliad ac yn penderfynu a oes gennych yr hawl i Fudd-dal Analluogrwydd ac ar ba gyfradd y dylid ei thalu. Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi eu penderfyniad.
Mae'r holl wybodaeth feddygol sy'n berthnasol i'ch cais, gan gynnwys adroddiad y meddyg ar sail yr archwiliad meddygol, yn gyfrinachol ac ni chaiff ei rhyddhau i neb y tu allan i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae'n bosib y bydd y meddyg am anfon rhywfaint o wybodaeth am eich archwiliad meddygol at eich meddyg teulu. Dan yr amgylchiadau hynny, bydd y Gwasanaethau Meddygol, sy'n trefnu archwiliadau meddygol ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ysgrifennu atoch a gofyn a ydych chi'n hapus iddynt roi'r wybodaeth i'ch Meddyg Teulu.
Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd y cafodd yr archwiliad meddygol ei gynnal, gallwch gwyno wrth y Gwasanaethau Meddygol. Esbonnir y drefn gwyno yn y llythyr gawsoch chi am eich archwiliad meddygol.
Cewch gwyno hefyd wrth y meddyg adeg yr archwiliad. Os na allan nhw ddatrys y broblem, byddan nhw'n rhoi taflen i chi'n esbonio'r drefn gwyno ffurfiol.
Os ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad am eich cais am fudd-dal yn anghywir, neu os nad ydych chi'n ei ddeall, gallwch:
Wrth gwblhau'r adroddiad meddygol ar ôl eich archwiliad meddygol, bydd y meddyg yn nodi pa bryd y gellid disgwyl i'ch cyflwr newid. Gwneir hyn drwy ddewis un o'r opsiynau canlynol:
Bydd y sawl sy'n gwneud y penderfyniad yn penderfynu pa bryd y dylid ailasesu eich hawliad, ar sail cyngor y meddyg. Fe all yr ailasesu olygu archwiliad meddygol arall.