Penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop ar 18 Hydref 2007 y gellir talu rhai budd-daliadau anabledd a gofalwyr i bobl sy'n gadael y DU i fynd i fyw mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) arall neu'r Swistir.
Mae'r penderfyniad yn effeithio ar:
Nid yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar yr elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl.
Os byddwch yn symud o'r DU i fyw mewn gwlad AEE neu'r Swistir, gallwch barhau i gael budd-daliadau os ydych:
Mae budd-daliadau yn seiliedig ar gyfraniadau'n cynnwys y Budd-dal Analluogrwydd tymor byr. I gael y budd-daliadau'n seiliedig ar gyfraniadau, fel arfer bydd yn rhaid i chi fod wedi gweithio am o leiaf blwyddyn o'r tair blynedd dreth diwethaf. Mae'n rhaid i chi hefyd fod wedi talu swm penodol o gyfraniadau yswiriant gwladol yn ystod y flwyddyn honno.
Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar eich cofnodion yswiriant gwladol a rhoi gwybod i chi p'un a ydych wedi talu digon ai peidio.
Os gallwch gael budd-dal salwch gan wlad arall o'r AEE neu'r Swistir neu os ydych yn gweithio yno, gall hyn effeithio ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud.
Os oes gennych hawl fel aelod o'r teulu, mae'n bosibl yr effeithir ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud os all eich partner, partner sifil neu riant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn gweithio mewn gwladwriaeth arall yn yr AEE neu'r Swistir.
Os ydych yn cael pensiwn y wladwriaeth neu'r budd-dal analluedd gan wlad arall yr AEE neu'r Swistir, efallai y gallwch hawlio budd-dal anabledd o'r wlad honno yn hytrach nag o'r DU.
Mae'n rhaid i chi fodloni'r amodau hawlio budd-daliadau arferol o hyd er mwyn hawlio'r budd-daliadau. Yr unig wahaniaeth ar ôl i chi symud yw na fydd yn rhaid i chi bellach:
Os gallwch fynd â'ch budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud i fyw i wlad arall yn yr AEE neu'r Swistir, bydd yr amser y byddwch yn parhau i gael eich talu yn dibynnu ar eich amgylchiadau:
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau i ystyried y goblygiadau cyfreithiol o ran talu budd-dal i bobl sydd eisoes yn byw mewn gwladwriaeth arall yn yr AEE neu'r Swistir ac yn dymuno hawlio o dramor. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n dymuno hawlio am y tro cyntaf a phobl sydd wedi cael budd-daliadau yn y gorffennol a ddaeth i ben pan wnaethant symud i wlad AEE neu'r Swistir.
Nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu penderfynu eto ar hawliau newydd a wneir gan bobl sy'n byw mewn gwladwriaeth arall yn yr AEE neu'r Swistir.
Y tîm allforio s'n delio â'r mater hwn. Gallwch ofyn iddynt sut i wneud cais nawr. Os oes gennych hawl, gellir eich talu i chi o'r dyddiad y gwnaethoch y cais.
Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth pan ddaw ar gael.
Os ydych yn symud i fyw i wlad arall yn yr AEE neu'r Swistir, bydd angen i chi roi gwybod i'r tîm allforio am y newid yn eich amgylchiadau. Pan fyddwch yn cysylltu â'r tîm allforio, dywedwch wrthynt:
Os ydych yn symud i fyw i wlad arall yn yr AEE neu'r Swistir a'ch bod yn credu bod gennych hawl fel aelod o'r teulu, dywedwch wrthynt hefyd:
Efallai y bydd yn rhaid i'r tîm allforio ofyn rhagor o gwestiynau i chi er mwyn sicrhau bod gennych hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi.
Os ydych yn credu y gallai penderfyniad y llys effeithio arnoch ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, dylech gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl:
Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu yn Lloegr:
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon:
Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r tîm allforio ynghylch y penderfyniad, ni fydd angen i chi gysylltu â nhw eto. Ceisir ymdrin â'ch ymholiad gwreiddiol cyn gynted â phosibl. Gall gymryd rhai wythnosau cyn y gellir clirio pob ymholiad.
Gellir cael rhagor o wybodaeth fanwl ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae'r penderfyniad llawn yn yr achos, sef achos C-299/05, wedi'i gyhoeddi ar wefan Llys Cyfiawnder Ewrop.
Mae Ardal Economaidd Ewrop wedi'i ffurfio o holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd - Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Gweriniaeth Tsiec, Cyprus, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Hwngari, Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Gwlad Pŵyl, Portiwgal, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen a Sweden yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.
Mae'r DU hefyd yn rhan o'r AEE. Mae'r DU yn golygu Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.
Mae'r DU yn trin Gibraltar fel gwlad arall yn yr AEE. Mae gwledydd eraill yr AEE yn trin Gibraltar fel rhan o'r DU.