Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cwyno am y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr

Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n darparu cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr.

Mae'n delio gyda hawliadau am y budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliadau Niwed yn sgil Brechiad

Sut mae cwyno

Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad i wneud cwyn.

Bydd manylion cyswllt y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad ar frig unrhyw lythyrau y mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi'u hanfon i chi. Os nad ydych yn siŵr â pha swyddfa i gysylltu, gallwch ffonio'r canlynol:

  • Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gweini: 0845 7123456
  • Uned Lwfans Gofalwr: 01253 856123
  • Uned Niwed yn sgil Brechiad: 01772 899944

Mae'r broses hon yn wahanol i'r broses pan fyddwch yn meddwl bod penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal yn anghywir.

Beth sy'n digwydd nesaf

I ddechrau, byddwch yn cael ymateb gan y tîm sy'n delio â'ch hawliad. Fe geisiant unioni pethau. Bydd eu hymateb yn eich gwahodd i ysgrifennu at eu rheolwr os ydych dal yn anfodlon. Os ydych dal yn anhapus â'r gwasanaeth ar ôl cael ymateb gan eu rheolwr, gallwch ysgrifennu at Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.

Os ydych dal yn anhapus â'r modd y deliwyd â'ch cwyn ar ôl cael ymateb gan Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, efallai y bydd modd i chi ofyn i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ymchwilio i'r mater. Bydd ymateb y Prif Weithredwr yn dweud wrthych sut mae gwneud hynny.

Yn ystod bob cam o'r broses rhoddir arweiniad clir i chi ynghylch beth i'w wneud nesaf.

Delir â'ch cwyn yn y ffordd orau i chi. Er enghraifft, os ydych am iddyn nhw gysylltu â chi dros y ffôn, yn hytrach nag ysgrifennu atoch, rhowch wybod i'r swyddfa.

Bydd y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn anelu at ymateb i'ch cwyn o fewn saith niwrnod gwaith.

Cymorth arall sydd ar gael gyda'ch cwyn am wasanaeth

Archwilydd Achosion Annibynnol

Mae'r Archwilydd Achosion Annibynnol yn annibynnol ar y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ac mae'n cynnig adolygu cwyn yn ddiduedd ac am ddim. Rhaid i chi gysylltu â hwy o fewn chwe mis o dderbyn yr ateb terfynol am eich cwyn gan brif weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.

Dylech nodi na fydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn gallu edrych ar eich cwyn oni fyddwch wedi cael ymateb gan Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn dweud wrthych y gallwch wneud hynny.

Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Aelod Seneddol a fydd o bosib yn anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon.

Fodd bynnag, dylech nodi y byddai'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi'n gyntaf gyflwyno'ch cwyn i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Ni fydd yr Ombwdsmon yn cymryd rhan mewn cwyn nes bod y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi cael cyfle i ddelio â'ch cwyn drwy eu trefn gwyno, gan gynnwys, pan fydd hynny'n briodol, cael mater wedi'i archwilio gan Archwilydd Achosion Annibynnol.

Os oes camgymeriad difrifol wedi'i wneud

Os yw'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi gwneud camgymeriad difrifol, efallai y gall roi taliad bychan arbennig i chi.

Bydd yn ystyried gwneud taliad arbennig os bydd yn cytuno eich bod wedi dioddef yn ariannol o ganlyniad i gamgymeriad a wnaed wrth ddelio gyda'ch hawliad.

Taflen gan y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr i'w llwytho oddi ar y we

Gallwch lwytho taflen y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ar ffurf PDF oddi ar y we drwy ddilyn y ddolen isod. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gwynion. Mae hefyd ar gael mewn sawl iaith dramor, ac mewn print bras, ar dâp sain/CD, Braille a fideo/DVD Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad os hoffech gael copi.

Os ydych chi'n teimlo bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir

Os byddwch chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio.

Gallwch ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU