Os ydych chi'n sâl neu'n anabl o ganlyniad i glefyd neu fyddardod a achoswyd gan fathau penodol o waith, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (clefydau a byddardod).
Gallwch hawlio os oeddech wedi'ch cyflogi mewn swydd a berodd i chi ddioddef o'r clefyd. Mae'r cynllun yn berthnasol i dros 70 o glefydau, gan gynnwys:
Gallwch gael rhestr lawn o glefydau gan eich Canolfan Byd Gwaith leol.
Allwch chi ddim hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig mewn gwaith a achosodd eich clefyd neu'ch byddardod.
Effeithir ar y lefel budd-dal y gallwch ei gael gan eich amgylchiadau personol yn cynnwys eich oed a pha mor ddifrifol yw eich anabledd - a asesir gan eich meddyg ar raddfa o un i 100 y cant.
Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:
|
Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad |
Dros 18 oed (swm wythnosol) |
Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol) |
|---|---|---|
|
100% |
£136.80 |
£83.85 |
|
90% |
£123.12 |
£75.47 |
|
80% |
£109.44 |
£67.08 |
|
70% |
£95.76 |
£58.70 |
|
60% |
£82.08 |
£50.31 |
|
50% |
£68.40 |
£41.93 |
|
40% |
£54.72 |
£33.54 |
|
30% |
£41.04 |
£25.16 |
|
20% |
£27.36 |
£16.77 |
Mae'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a'r budd-daliadau cysylltiedig yn cael eu talu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.
Gallwch hawlio am glefydau a/neu fyddardod a ddigwyddodd cyn 1 Hydref 1990, os asesir eich anabledd ar lefel 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.
Mae'r gyfradd Lwfans Gweini Cyson y byddwch yn ei derbyn yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion.
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)
Gallech hefyd gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) os ydych chi'n anabl o ganlyniad i ddamwain yn y gwaith.
Gallwch hawlio £54.80 a delir yn ychwanegol i'r cyfraddau Lwfans Gweini Cyson, os cewch eich asesu ar gyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.
Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Lwfans Enillion Is (LEI) os yw eich enillion presennol, neu eich enillion mewn swydd yr ystyrir y gallech ei gwneud, yn llai na'r enillion presennol yn eich swydd reolaidd flaenorol. Dim ond am hawliadau sy'n ymwneud â chlefydau diwydiannol a ddigwyddodd gyntaf cyn 1 Hydref 1990 gewch chi gael LEI. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £54.72.
Bydd y Lwfans Ymddeol yn disodli'r Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Gallech fod yn gymwys i dderbyn cyfradd wythnosol hyd at £13.68.
Newmoconiosis
Os ydych chi'n dioddef o rai clefydau penodol sy'n ymwneud â llwch, gallech hefyd gael taliad dan Ddeddf Newmoconiosis (Iawndal i Weithwyr) 1979.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau os ydych chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:
Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano'n parhau i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol - hyd yn oed os ydych chi'n mynd dramor yn barhaol.
Nid yw'r Lwfans Enillion Is yn daladwy os symudwch dramor yn barhaol.
Cewch ragor o wybodaeth gan y swyddfa sy'n delio â'ch taliad.