Ers Ebrill 2001, nid yw wedi bod yn bosib gwneud cais newydd i hawlio Lwfans Anabledd Difrifol. Cyn Ebrill 2001, roedd hi'n bosibl hawlio Lwfans Anabledd Difrifol os nad oeddech wedi gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos yn ddi-dor oherwydd salwch neu anabledd.
Allwch chi ddim hawlio o'r newydd am Lwfans Anabledd Difrifol. Ond os oeddech yn cael y lwfans cyn Ebrill 2001 - byddwch yn parhau i'w dderbyn.
Mae’n bosib roedd gennych hawl i'r Lwfans o bosibl (cyn Ebrill 2001) os cawsoch eich asesu gydag anabledd o 80 y cant a:
Y gyfradd wythnosol uchaf ar hyn o bryd yw £51.05 (os oeddech yn cael y Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001).
Efallai eich bod yn cael swm wythnosol ychwanegol yn gysylltiedig ag oedran yn dibynnu ar eich oed pan ddaethoch yn anabl i weithio. Er enghraifft os oeddech, cyn Ebrill 2001:
Mae'r Budd-dal Anabledd Difrifol yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol. Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.
Mae 'na rai mathau o 'waith wedi'i eithrio' y gallwch ei wneud a chael Lwfans Anabledd Difrifol yr un pryd. Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol am ragor o fanylion.
Ond os ydych yn cael Lwfans Anabledd Difrifol a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn megis: Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.
Allwch chi ddim hawlio Lwfans Anabledd Difrifol os nad ydych yn ei gael yn barod. Ond efallai y bydd modd i chi hawlio os wnaethoch dderbyn Lwfans Anabledd Difrifol cyn mis Ebrill 2001 a:
Os ydych yn credu eich bod yn gallu hawlio neu angen cyngor ychwanegol, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
Os byddwch yn mynd dramor yn barhaol neu dros dro, efallai y bydd gennych hawl i gael rhyw fath o Lwfans Anabledd Difrifol dramor. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol.
Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad, fe allwch chi apelio i dribiwnlys annibynnol. Ond os oes gennych chi ymholiad ynghylch taliad presennol, fe allwch chi gysylltu â'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy'n ymdrin â'ch cais.
Os ydych chi'n credu y byddech chi wedi bod â hawl i gael Lwfans Anabledd Difrifol pan oedd hwnnw ar gael cyn mis Ebrill 2001, efallai y bydd modd i chi hawlio Budd-dal Analluogrwydd nawr.
Am gyngor cyffredinol, cysylltwch â'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau:
Ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Hefyd gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth RNID Typetalk.
Mae'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau ar agor rhwng 8.30 am a 6.00 pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 1.00 pm ar ddydd Sadwrn.