Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pensiwn Anabledd Rhyfel

Efallai y gallwch hawlio'r Pensiwn Anabledd Rhyfel dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel os ydych chi wedi cael anaf neu anabledd yn ystod rhyfel neu ar ôl gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (EM) os nad ydych bellach yn gwasanaethu gyda Lluoedd Arfog EM, ac i'ch anabledd yr ydych yn hawlio amdano godi cyn 6 Ebrill 2005.

Pwy sy’n gymwys?

Gallwch hawlio os cawsoch anaf neu eich gwneud yn anabl drwy wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM, gan gynnwys:

  • Catrawd Amddiffyn Ulster (y Gatrawd Frenhinol Wyddelig erbyn heddiw)
  • y Gwarchodlu Cartref
  • y gwasanaethau nyrsio a gwasanaethau cynorthwyol

Neu fe allwch hawlio os cawsoch anaf neu eich gwneud yn anabl drwy wasanaethu fel gwirfoddolwr amddiffyn sifil (CDV).

Neu os gwnaethoch wasanaethu yn y llynges fasnachol, y gwasanaeth morol cynorthwyol neu gyda gwylwyr y glannau, ac y cawsoch anabledd yn dilyn anaf a gawsoch neu glefyd a ddioddefasoch oherwydd:

  • amodau yn ystod rhyfel
  • i chi fod yn garcharor rhyfel

Neu, os oeddech yn ystod yr Ail Ryfel Byd:

  • yn berson sifil a gafodd anaf neu anabledd o ganlyniad i ymosodiad gan y gelyn
  • yn aelod o Fyddin Gwlad Pwyl o dan reolaeth Prydain (neu yn Lluoedd Ailwladychu Gwlad Pwyl) a chael anaf neu anabledd wrth wasanaethu

Os ydych yn anabl yn dilyn gwasanaethu gyda Lluoedd Arfog EM ar 6 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, dylech wneud hawliad dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Chewch chi ddim hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel dan y Cynllun Pensiwn Rhyfel os ydych yn dal i wasanaethu yn Lluoedd Arfog EM.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'ch anabledd. Gofynnir i chi lenwi ffurflen hawlio am eich anabledd. Yna, bydd Asiantaeth Cyn-aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog yn ymgynghori ag ymgynghorwyr meddygol i gyfrifo faint y mae gennych hawl iddo.

Bydd eich asesiad yn cael ei gyfrifo fel canran. Os yw’r ganran:

  • yn fwy nag 20 y cant, mi gewch bensiwn
  • yn llai nag 20 y cant, mi gewch un taliad, neu dâl cydnabod, fel arfer yn hytrach na phensiwn

Bydd y tâl cydnabod yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich anabledd ac am ba mor hir y disgwylir i chi fod yn anabl. Os mai byddardod synwyrnerfol a achoswyd gan sŵn sydd gennych, ni chewch dâl cydnabod.

Gellir cael lwfansau ychwanegol ar ben y Pensiwn Anabledd Rhyfel hefyd. Er enghraifft, gall eich oed, eich anghenion gofal a symudedd, neu golli enillion effeithio ar y swm a gewch.

Sut mae'n cael ei dalu

Telir y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, gellir anfon eich taliad gyda siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Gall budd-daliadau eraill y gallwch eu derbyn, megis Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Byw i'r Anabl neu Gymhorthdal Incwm, effeithio ar faint o Bensiwn Anabledd Rhyfel y mae gennych hawl iddo.

Gall y Ganolfan Byd Gwaith roi cyngor i chi ynghylch sut yr effeithir ar eich budd-daliadau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa leol ar-lein neu yn y llyfr ffôn lleol dan 'Jobcentre Plus' neu 'Social Security'.

Sut i hawlio

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog i gael ffurflen hawlio, a chymorth i'w llenwi, ar:

Rhif Ffôn: 0800 169 2277

Ffôn testun 0800 169 3458

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Gallwch hefyd gael ffurflen yn eich Swyddfa Gwasanaeth Lles Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog agosaf. Mae'r rhif ffôn wedi'i restru yn y llyfr ffôn lleol o dan 'War Pensions Agency'.

Neu gallwch lwytho ffurflen hawlio oddi ar wefan Asiantaeth Cyn-aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog, Veterans UK.

Sut mae apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad Asiantaeth Cyn-aelodau a Phersonél y Lluoedd Arfog i wrthod eich cais am Bensiwn Anabledd Rhyfel, gallwch ofyn iddynt roi esboniad i chi ac i ailasesu'ch cais. Os ydych yn dal yn anhapus, byddant yn dweud wrthych sut mae apelio.

Cymorth rhad ac am ddim gydag apeliadau

Gallwch gael cymorth rhad ac am ddim gydag apêl drwy gysylltu â'r canlynol:

  • Y Lleng Frenhinol Brydeinig
  • Y Lleng Frenhinol Brydeinig yn yr Alban
  • Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU