Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)

Efallai y gallwch dderbyn Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) os ydych yn wael neu'n anabl oherwydd damwain neu ddigwyddiad yn y gwaith neu mewn cysylltiad â'r gwaith.

Pwy sy’n gymwys?

Efallai y gallwch dderbyn y budd-dal hwn:

  • os oeddech yn gyflogedig pan ddigwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad
  • os digwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad a achosodd eich salwch neu'ch anabledd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Mae 'na rai eithriadau i hyn - holwch eich Canolfan Byd Gwaith leol.

Pwy sydd ddim yn gymwys

Allwch chi ddim hawlio'r budd-dal hwn os oeddech yn hunangyflogedig ac wedi cael damwain wrth eich gwaith.

Faint fyddwch chi'n ei gael

Bydd eich amgylchiadau unigol yn effeithio ar faint o fudd-dal a gewch chi. Bydd hyn yn dibynnu ar:

  • eich oedran
  • pa mor ddifrifol yw eich anabledd - a asesir gan feddyg ar raddfa o un i 100 y cant

Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau)

Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:

Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad

Dros 18 oed (swm wythnosol)

Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol)

100%

£136.80

£83.85

90%

£123.12

£75.47

80%

£109.44

£67.08

70%

£95.76

£58.70

60%

£82.08

£50.31

50%

£68.40

£41.93

40%

£54.72

£33.54

 30%

 £41.04

 £25.16

20%

£27.36

£16.77

Sut mae'n cael ei dalu

Mae Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a budd-daliadau cysylltiedig yn cael eu talu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Ond, os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r taliad, gellir anfon siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Os ydych yn anabl yn sgîl afiechyd neu fyddardod a achoswyd yn y gwaith, efallai y gallwch hawlio budd-daliadau eraill - er y gellir cyfrif rhai o'r rhain fel incwm ar gyfer budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd.

Mwy o fudd-daliadau anafiadau diwydiannol

Asesiad newmoconiosis a bysinosis

Gallwch eu hawlio os na allwch ddychwelyd i'ch gwaith arferol neu i waith â chyflog tebyg oherwydd damwain neu afiechyd a achoswyd yn y gwaith cyn 1 Hydref 1990.

Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad Swm wythnosol
rhwng 11% a 19% £27.36
rhwng 1% a 10% £13.68

Asesiad mesothelioma

Telir 100 y cant (£136.80) o'r asesiad mesothelioma ar ddechrau'r hawliad, heb orfod cael y cyfnod aros o 90 diwrnod.

Lwfans Gweini Cyson

Gallwch hawlio am ddamweiniau os asesir bod gennych anabledd 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.

Mae'r gyfradd Lwfans Gweini Cyson y byddwch yn ei derbyn yn seiliedig ar asesiad meddyg o'ch anghenion.

Cyfradd Lwfans Gweini Cyson Swm wythnosol
Cyfradd eithriadol £109.60
Cyfradd ganolradd £82.20
Cyfradd uchaf arferol £54.80
Cyfradd rhan amser £27.40

Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol

Gallwch hawlio £54.80 ar ben cyfraddau'r Lwfans Gweini Cyson, os bydd yr asesiad yn penderfynu eich bod yn gymwys ar gyfer cyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.

Lwfans Enillion Is

Efallai y gallwch dderbyn Lwfans Enillion Is os yw eich enillion cyfredol, neu enillion mewn swydd y tybir y gallech chi ei chyflawni, yn llai na'r enillion ar y pryd yn eich swydd reolaidd flaenorol. Dim ond os digwyddodd eich damwain cyn 1 Hydref 1990 y cewch chi Lwfans Enillion Is. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £54.72.

Lwfans Ymddeol

Mae'r Lwfans Ymddeol yn disodli'r Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £13.68.

Sut i hawlio

Gallwch hawlio'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol yn syth drwy lenwi ffurflen yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, neu drwy lwytho'r ffurflen hawlio o'r ddolen isod.

Dweud am ddamwain yn y gwaith - os nad oes angen i chi wneud hawliad yn syth

Gallwch wneud cais am ddatganiad eich bod wedi cael damwain ddiwydiannol, hyd yn oed os nad ydych yn dymuno hawlio unrhyw fudd-dal yn syth. Gellir gwneud hyn ar y ffurflen y gellir ei llwytho uchod oddi ar y we.

Mae'n syniad da gwneud cais am ddatganiad os nad ydych yn anabl yn syth ar ôl eich damwain, ond eich bod yn meddwl y gallech brofi rhai problemau yn y dyfodol o ganlyniad iddi.

Beth i'w wneud os yw eich amgylchiadau'n newid

Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os ydych chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:

  • yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty
  • yn mynd i gartref gofal neu'n ei adael
  • yn mynd i fyw dramor neu i ymweld â gwlad dramor
  • yn mynd i'r carchar

Mae'n debygol y byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano yn dal i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Difrifol - hyd yn oed os ydych yn mynd dramor am byth. Ond os mai dros dro y byddwch yn aros dramor, fel arfer dim ond am y tri mis cyntaf y cewch y taliadau. Cewch ragor o wybodaeth gan y swyddfa sy'n delio gyda'r taliad.

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU