Os ydych chi'n ddifrifol anabl o ganlyniad i frechiad rhag clefydau penodol, mae'n bosib y cewch chi Daliad Niwed Trwy Frechiad, taliad untro di-dreth o £120,000.
Mae'n bosib y cewch chi Daliad Niwed Trwy Frechiad os tybiwch eich bod yn ddifrifol anabl a bod eich anabledd wedi'i achosi gan frechiad rhag unrhyw un o'r clefydau hyn:
Mae'n bosib eich bod wedi cael brechiad cyfun rhag nifer o'r clefydau a restrir, er enghraifft DTP (diptheria, tetanws a'r pas) neu MMR (y frech goch, clwy'r pennau a rwbela).
Mae'n bosib hefyd y gallwch chi gael y taliad os tybir eich bod yn ddifrifol anabl oherwydd:
Mesurir anabledd ar ffurf canran, a'r diffiniad o 'anabledd difrifol' yw anabledd o 60 y cant o leiaf. Gallai hyn fod yn anabledd meddyliol neu'n anabledd corfforol.
Er enghraifft, fel arfer, ystyrir bod colli'r golwg neu'r clyw'n llwyr yn anabledd o 100 y cant.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y Taliad Niwed Trwy Frechiad, fel arfer rhaid i chi fod wedi cael y brechiad cyn eich pen-blwydd yn 18 oed, oni bai mai brechiad rhag poliomyelitis, rwbela neu Grŵp C Meningococcaidd, oedd hwn, neu iddo gael ei roi yn ystod heintiad o glefyd yn y DU neu Ynys Manaw.
Rhaid i chi fod wedi cael y brechiad yn y DU neu ar Ynys Manaw.
Os rhoddwyd y brechiad y tu allan i'r DU, mae'n bosib y gallech ddal i gael taliad os rhoddwyd ef fel rhan o driniaeth feddygol y Lluoedd Arfog.
Os byddwch chi'n hawlio ar ran plentyn, rhaid i chi ddisgwyl iddynt fod yn ddwy oed o leiaf cyn hawlio.
Rhaid hawlio erbyn y dyddiad diweddaraf o'r ddau hyn:
Mae'r swm yn £120,000 ac yn ddi-dreth.
Rhoddir taliad i chi, neu, os ydych chi dan 18 oed neu'n methu rheoli'ch materion chi'ch hun, telir yr arian i ymddiriedolwyr.
Os ydych chi'n byw gyda'ch teulu, mae'n bosib y penodir eich rhieni'n ymddiriedolwyr.
Gall eich Taliad Niwed Trwy Frechiad effeithio ar fudd-daliadau a hawliadau eraill, megis:
Bydd yr effaith gaiff y taliad yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys a fydd y taliad yn cael ei roi mewn cronfa ymddiriedolaeth a'r taliadau'n cael eu gwneud ohoni.
Dylech roi gwybod i'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad am fudd-dal neu gredyd treth os cewch chi Daliad Niwed Trwy Frechiad. Gallant hwy roi mwy o wybodaeth a chyngor i chi.
Gallwch gysylltu â'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen hawlio:
Vaccine Damage Payment Unit
Palatine House, Lancaster Road
Preston, PR1 1HB
Rhif ffôn: 01772 899944
Ffôn testun: 01772 562202
Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9.00 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener. Gallwch hefyd ffonio drwy ddefnyddio Typetalk RNID.
Neu, gallwch lwytho ffurflen i'w hargraffu oddi ar y we a'i llenwi.
Os ydych o dan 18, dylai eich rhiant neu eich gwarcheidwad hawlio ar eich rhan.
Unwaith i 'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad dderbyn eich hawliad, bydd yn gofyn am dystiolaeth feddygol gan y meddygon neu'r ysbytai sy'n ymwneud â'ch triniaeth.
Bydd hawliad yn llwyddiannus os derbynnir:
Anfonir llythyr atoch i ddweud beth yw canlyniad yr hawliad.
Os gwrthodir eich hawliad a'ch bod yn anghytuno â'r penderfyniad, cewch ofyn i'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad edrych arno eto, neu cewch apelio i dribiwnlys apêl annibynnol.
Os tybiwch fod y wybodaeth berthnasol heb ei hystyried neu os daw gwybodaeth newydd i'r golwg, cewch ofyn i'r Uned Taliadau Niwed Trwy Frechiad ailystyried eu penderfyniad.