Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliad mesothelioma ymledol

Ar 1 Hydref 2008, cyflwynwyd cynllun newydd gan y llywodraeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r clefyd cysylltiedig ag asbestos, mesothelioma ymledol. O dan amgylchiadau penodol, mae’n bosib y bydd pobl sydd â’r clefyd yr hawl i daliad unswm untro.

Cymhwysedd

Os na allwch chi hawlio dan Ddeddf Niwmoconiosis 1979, os nad ydych chi wedi cael taliad yn gysylltiedig â'r clefyd gan gyflogwr, drwy hawliad sifil neu fel arall, ac os nad oes gennych hawl i gael iawndal drwy un o gynlluniau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gallwch hawlio taliad unswm untro.

Mae'r cynllun yn ymdrin â phobl a ddaeth i gysylltiad ag asbestos yn y Deyrnas Unedig, ond nid o ganlyniad i'w gwaith fel cyflogai, er enghraifft:

  • eu bod wedi dod i gysylltiad ag asbestos drwy berthynas iddynt - drwy olchi eu dillad, er enghraifft
  • eu bod wedi dod i gysylltiad ag asbestos yn yr amgylchedd - er enghraifft, drwy fyw'n agos at ffatri oedd yn defnyddio asbestos
  • eu bod wedi dod i gysylltiad ag asbestos tra'u bod yn hunangyflogedig
  • ni ellir dweud pryd y daethant i gysylltiad, ond digwyddodd hynny yn y Deyrnas Unedig

Cyfraddau

Mae'r taliad unswm yn dibynnu ar faint oed oeddech chi pan gawsoch chi ddiagnosis o'r clefyd. Os nad yw dyddiad y diagnosis yn hysbys, bydd yn seiliedig ar eich oedran pan rydych chi'n hawlio.

Mae'r cyfraddau fel a ganlyn:

Oed

Taliad

37 ac iau

£ 52,772

38

£ 51,747

39

£ 50,722

40

£ 49,698

41

£ 48,673

42

£ 47,648

43

£ 47,137

44

£ 46,621

45

£ 46,112

46

£ 45,599

47

£ 45,086

48

£ 43,653

49

£ 42,219

50

£ 40,781

51

£ 39,349

52

£ 37,911

53

£ 36,888

54

£ 35,864

55

£ 34,841

56

£ 33,812

57

£ 32,789

58

£ 30,125

59

£ 27,460

60

£ 24,799

61

£ 22,133

62

£ 19,469

63

£ 17,829

64

£ 16,189

65

£ 14,551

66

£ 12,911

67

£ 11,272

68

£ 10,939

69

£ 10,604

70

£ 10,273

71

£   9,941

72

£   9,608

73

£   9,325

74

£   9,037

75

£   8,759

76

£   8,480

77 a throsodd

£   8,197

Mae tair gwahanol gyfradd ar gyfer dibynyddion os yw'r dioddefwr wedi marw.

Gwneud hawliad

Dylech hawlio cyn gynted â phosibl.

Daeth y cynllun i rym ar 1 Hydref 2008.

Nid oes terfyn amser ar gyfer hawliadau a wneir yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun. Ar ôl yr amser hwnnw, rhaid derbyn hawliadau o fewn 12 mis i ddyddiad y diagnosis.

Y nod yw talu 95% o hawliadau o fewn chwe wythnos i dderbyn y ffurflen hawlio.

Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth feddygol gyda'ch hawliad i ddangos eich bod yn dioddef mesothelioma ymledol a achoswyd gan ddod i gysylltiad ag asbestos. Nid fydd angen archwiliad meddygol arall.

Os yw'r dioddefwr wedi marw, efallai y gall eu dibynyddion hawlio. Rhaid derbyn y ffurflen hawlio o fewn 12 mis i ddyddiad y farwolaeth.

Pwy i gysylltu â nhw

Os hoffech ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen hawlio, ffoniwch neu ysgrifennwch at:

Canolfan Darparu Budd-dal Anafiadau Diwydiannol Barrow

Tîm PWC
Canolfan Byd Gwaith
Canolfan IIDB Barrow
Pittman Way
Preston
PR11 2AB

Rhif ffôn: 0800 279 2322

Additional links

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU