Treth yw TAW a dalwch fel defnyddiwr pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys y Deyrnas Unedig. Yn y DU, 17.5 y cant yw'r gyfradd safonol ar gyfer TAW.
Nid oes rhaid i bobl anabl dalu TAW wrth brynu cyfarpar sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl anabl neu pan fyddan nhw'n cael addasu cyfarpar i'w ddefnyddio.
Hefyd, nid oes TAW yn cael ei chodi ar rai gwasanaethau a ddarperir i bobl anabl, gan gynnwys gwaith adeiladu i addasu cartref person anabl a llogi cyfarpar (megis cadeiriau olwyn) i bobl anabl.
Yn aml cyfeirir at nwyddau a gwasanaethau nad oes yn rhaid talu TAW arnynt fel nwyddau 'ar gyfradd sero' neu 'cymwys ar gyfer gostyngiad TAW'. Mewn geiriau eraill, sero yw'r gyfradd TAW a godir arnynt.
Mae'r rheolau ynghylch gostyngiadau TAW i bobl anabl yn gymhleth. Nid yw popeth a ddarperir ar gyfer pobl anabl ar y gyfradd sero o TAW.
Yn ôl cyfraith TAW, rhaid i chi fod yn 'gronig sâl neu'n anabl' i fod yn gymwys i gael gostyngiad TAW.
Ystyr 'cronig sâl neu anabl' yw:
Ni fyddai rhywun ag anaf dros dro, megis rhywun sydd wedi torri'i goes, yn gymwys ac ni fyddai rhywun hŷn a bregus chwaith a oedd yn gyffredinol yn abl o gorff.
Hefyd, i fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero, rhaid darparu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth at 'ddefnydd personol neu ddomestig' person cronig sâl neu anabl. Dyma rai o'r pethau nad ydynt yn cael eu cynnwys yma:
Dyma ambell enghraifft o nwyddau nad oes yn rhaid talu TAW arnynt:
Dyma wasanaethau sy'n gymwys i gael cyfradd sero TAW:
Cerbydau modur
Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, ni ddylech orfod talu TAW wrth brynu cerbyd modur sydd wedi'i addasu at eich defnydd personol chi. Diffinnir defnyddiwr cadair olwyn fel rhywun sydd yn gorfod defnyddio cadair olwyn (un pŵer neu un â llaw) er mwyn gallu symud o gwmpas.
Mae unrhyw waith a wneir ar gerbyd sydd heb ei addasu er mwyn i'r cerbyn fod yn addas ar gyfer cyflwr person anabl (os yw'r person yn defnyddio cadair olwyn ai peidio) hefyd yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero. Fodd bynnag, nid oes gostyngiad TAW wrth brynu cerbyd sydd heb ei addasu.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch yr hysbysiad 'Cerbydau Modur i bobl anabl' ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Elusen yw Motability sy'n darparu cerbydau a chadeiriau olwyn â phwer ar gyfer pobl anabl. Nid oes rhaid i chi dalu TAW pan fyddwch chi'n llogi cerbyd neu gadair olwyn dan y cynllun Motability.
Mae'r gwaith a wneir wrth wneud rhai addasiadau i gartrefi pobl anabl yn gymwys i gael gostyngiad TAW.
Fodd bynnag, mae'r rheolau ynghylch addasu adeiladau a TAW yn gymhleth. Dylech wastad ofyn a fydd y gwaith addasu a wneir i'ch cartref yn gymwys i gael gostyngiad TAW pan fyddwch yn trefnu i gyflogi adeiladwr neu grefftwr arall.
Nid oes rhaid i chi dalu TAW wrth logi cyfarpar anabledd cymwys. Mae hyn yn berthnasol i gyfarpar mawr, megis cadeiriau olwyn â phwer a theclynnau codi, (sydd fel arfer yn cael eu llogi gan gwmnïau preifat) a chyfarpar arbenigol i bobl sydd ag anableddau penodol (a geir fel arfer gan fudiadau ac elusennau anabledd).
Cyn i chi dalu am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, holwch i sicrhau ei fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd sero a bod y cyflenwr wedi'i gofrestru ar gyfer TAW.
Pan fyddwch chi'n prynu cynnyrch neu wasanaeth sy'n gymwys ar gyfer y gyfradd sero, efallai y bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen sy'n datgan bod gennych salwch neu anabledd cronig a beth yw hwnnw. Rhaid i chi hefyd ddatgan bod y cynnyrch neu'r gwasanaeth er eich 'budd personol neu ddomestig' chi. Dylai'r cyflenwr fod â chopïau o'r ffurflen hon.
Yna, fe allwch brynu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth am bris heb TAW. Nid oes rhaid i chi dalu TAW ac yna'i adhawlio gan y llywodraeth - fe'i tynnir oddi ar y pris prynu cyn i chi dalu.
Fe welwch enghraifft o'r ffurflen ddatgan yn yr hysbysiad 'Gostyngiadau TAW i bobl anabl' ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Gallwch gael gwybod mwy am ostyngiadau TAW i bobl anabl ar wefan Cyllid a Thollau EM. Os na chewch chi ateb i'ch cwestiynau yno, gallwch ffonio eu Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol, sy’n ymdrin â gostyngiadau TAW i bobl anabl.
Rhif ffôn: 0845 302 02 03