Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - pwy sy'n gymwys

Efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes gennych chi salwch neu anabledd sy'n effeithio ar eich gallu i weithio.

Pwy sy’n gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth    

Efallai y gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • os yw eich Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu os nad oes modd i chi ei gael
  • os ydych chi'n hunangyflogedig neu'n ddi-waith
  • os ydych chi wedi bod yn cael Tâl Mamolaeth Statudol a heb ddychwelyd i weithio i'ch cyflogwr am bod gennych chi salwch neu anabledd sy'n effeithio ar eich gallu i weithio
  • os ydych chi dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Rhaid i chi hefyd naill ai:

  • fod wedi bod â salwch neu anabledd sy'n effeithio ar eich gallu i weithio am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus)
  • fod yn methu â gweithio am ddau ddiwrnod neu fwy mewn saith niwrnod olynol
  • fod yn cael triniaeth feddygol arbennig

Os ydych chi rhwng 16 a 20 oed (neu o dan 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20), rhaid i chi:

  • fod wedi bod yn rhy sâl i weithio oherwydd salwch neu anabledd am o leiaf 28 wythnos
  • fod wedi bod yn rhy sâl i weithio cyn eich pen-blwydd yn 20 oed (neu 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20)

Amodau hawlio

Ceir dau fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:

  • seiliedig ar gyfraniadau
  • cysylltiedig ag incwm

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau

Efallai fod gennych hawl i hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych chi wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Efallai fod gennych hawl i hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm os nad oes gennych chi ddigon o arian yn dod i mewn, neu os nad ydych chi wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a'ch bod yn bodloni'r amodau hawlio. Mae hyn yn golygu bod gennych gynilion sy'n llai na £16,000, ac os oes gennych bartner neu bartner sifil, eu bod yn gweithio am lai na 24 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Os ydych wedi bod yn byw neu'n gweithio dramor

Gall byw neu weithio dramor effeithio ar eich hawliad am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Efallai y gallwch hawlio os ydych naill ai:

  • wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU yn y gorffennol (a nifer cyfatebol mewn gwledydd penodol eraill)
  • wedi gweithio dramor i gyflogwr o'r DU ac wedi talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol am 52 wythnos gyntaf y gwaith hwnnw

Budd-dal Analluogrwydd

Os ydych chi wedi derbyn Budd-dal Analluogrwydd yn ystod y ddwy flynedd cyn 27 Hydref 2008, efallai y cewch hwnnw eto yn hytrach na Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ystyried hyn pan wnewch eich hawliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU