Bydd y swm a delir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd nifer o bethau'n cael eu hystyried. Mae hefyd yn dibynnu ar ba effaith y mae eich anabledd yn ei gael ar eich gallu i weithio.
Telir y gyfradd ar gyfer y cyfnod asesu am 13 wythnos gyntaf eich hawliad tra bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar eich gallu i weithio drwy'r Asesiad Gallu i Weithio.
| Oed yr hawlydd | Swm wythnosol |
|---|---|
| Person sengl dan 25 oed | hyd at £50.95 |
| Person sengl sy'n 25 oed neu'n hŷn | hyd at £64.30 |
Bydd y prif gyfnod yn cychwyn o wythnos 14 eich hawliad, os yw'r Asesiad Gallu i Weithio yn dangos nad yw'ch salwch na'ch anabledd yn cyfyngu ar eich gallu i weithio.
| Math o grŵp | Swm wythnosol |
|---|---|
| Person sengl yn y Grŵp Gweithgaredd sy'n Gysylltiedig â Gwaith | hyd at £89.80 |
| Person sengl yn y Grŵp Cymorth | hyd at £95.15 |
Yn y rhan fwyaf o achosion ni chewch unrhyw arian am dri diwrnod cyntaf eich hawliad. Gelwir y rhain yn 'ddiwrnodau aros'.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi gael mwy o arian os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm.
Dim ond os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm y gallwch gael arian ychwanegol ar gyfer eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil.
Os yw eich incwm pensiwn gros yn fwy na £85 yr wythnos, bydd y gwahaniaeth rhwng £85 a'ch incwm pensiwn gwirioneddol yn cael ei haneru a'i dynnu o'r budd-dal.
Y swm ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn sy'n £100, y swm ychwanegol yw £15. Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n daladwy yn cael ei leihau gan £15, sef £7.50.
Os byddwch chi'n cael lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, bydd unrhyw incwm pensiwn sydd gennych yn cael ei ystyried, ni waeth beth yw'r swm.
Ni fydd Treth Incwm yn cael ei dynnu o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm.
Ceir rhai achosion eraill lle na thynnir Treth Incwm, er enghraifft, os ydych chi'n cael pensiwn galwedigaethol.
Gellir tynnu Treth Incwm o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau os ydych chi'n cael unrhyw un o gyfraddau'r prif gyfnod.
Byddwch yn derbyn llythyr sy’n dweud wrthych faint o dreth y bydd angen i chi ei dalu, os o gwbl. Mae faint o dreth y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar eich cod treth.
Fel arfer, telir y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu gyfrif Cynilion Cenedlaethol - unrhyw gyfrif sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Mae'n bwysig cysylltu â swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n delio gyda'ch hawliad os bydd eich amgylchiadau'n newid. Gallwch wneud hyn dros y ffôn - bydd eu rhif i'w weld ar y llythyrau y maent wedi'u hanfon atoch. Er enghraifft: