Gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth mewn sawl ffordd. Y ffordd gyflymaf a'r hawsaf yw dros y ffôn neu ffôn testun.
Gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dros y ffôn neu ffôn testun. Bydd cynghorydd yn y ganolfan gyswllt yn mynd trwy'r cais gyda chi ac yn llenwi'r ffurflen. Nid fydd yn rhaid i chi lenwi unrhyw ffurflenni eich hun.
Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Rhifau cyswllt y ganolfan:
Ffôn 0800 055 6688
Ffôn testun 0800 023 4888
Mae galwadau at rifau 0800 am ddim o linellau sefydlog BT, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu:
Gall galwadau o ffonau symudol gostio hyd at 40c y funud, felly holwch eich darparwr gwasanaeth ynghylch cost yr alwad.
Mae ffonau testun ar gyfer pobl sy'n ei gweld hi'n anodd siarad neu glywed yn glir. Dim ond gan ffôn testun arall y gall ffôn testun dderbyn galwadau. Os nad oes gennych chi ffôn testun ac angen defnyddio un, ewch at eich llyfrgell leol neu ganolfan gyngor fel Cyngor ar Bopeth, mae'n bosib bydd un ganddyn nhw.
Gallwch hawlio ar-lein trwy wasanaeth ar-lein yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os carech chi lenwi ffurflen eich hun, gellwch lwytho'r ffurflen i lawr. Bydd rhaid i chi argraffu'r ffurflen hon a'i phostio at y Ganolfan Byd Gwaith.
Bydd angen i chi ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd cyn llenwi'r ffurflen hawlio.
Ceir dwy fersiwn o’r ffurflen. Rhaid i un fersiwn gael ei hargraffu a'i llenwi â beiro. Gall y fersiwn arall gael ei llenwi trwy ddefnyddio'r cyfrifiadur.
Gallwch gadw'r ffurflen ryngweithiol hon wrth i chi ei llenwi. Golyga hyn nad oes rhaid i chi lenwi'r ffurflen i gyd ar unwaith. Dim ond yn Adobe Reader 7.0 ac uwch mae'r nodwedd 'cadw' yn gweithio.
Wedi i chi gwblhau'r ffurflen ar y sgrîn, bydd angen i chi ei hargraffu a'i llofnodi.
Sylwch nad yw'r ffurflenni hyn ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'n bwysig cysylltu â swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n delio gyda'ch hawliad os bydd eich amgylchiadau'n newid. Gallwch wneud hyn dros y ffôn - bydd y rhif i'w weld ar y llythyrau y maent wedi'u hanfon atoch. Er enghraifft:
Os gwrthodir Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad edrych eto ar eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus am y canlyniad, gallwch apelio.