Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich cyfrifoldebau wrth gyflogi gofalwr proffesiynol

Os ydych yn cyflogi gofalwr yn uniongyrchol, bydd gennych rai cyfrifoldebau fel cyflogwr. Dyma'r achos pa un a ydych yn cyflogi rhywun am ychydig o oriau yr wythnos neu'n amser llawn.

Arweiniad yw'r erthygl hon i'r cyfrifoldebau hynny ac i'ch helpu chi i benderfynu ai cyflogi rhywun yw'r cam iawn i chi.

Treth

Fel cyflogwr, efallai eich bod yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o gyflog eich gweithiwr, a'u talu i adran Gyllid a Thollau EM ynghyd â'ch cyfraniad Yswiriant Gwladol chi fel cyflogwr. Bydd hyn yn dibynnu ar faint y mae eich gweithiwr yn ei ennill.

Efallai y gall yr adran gwasanaethau cymdeithasol lleol eich helpu gyda'r gwaith papur ar gyfer Cyllid a Thollau EM.

Gallwch gael gwybod mwy am dreth yn adran arian, treth a budd-daliadau Directgov.

Talu i'ch gofalwr

Rhaid i chi dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf i'ch gofalwr.

Oriau gweithio, amser o'r gwaith, tâl salwch a thâl gwyliau

Fel gweithiwr, mae gan eich gofalwr neu gynorthwy-ydd personol rywfaint o hawliau gyda golwg ar y canlynol:

  • cyfnodau egwyl
  • uchafswm oriau gweithio mewn unrhyw wythnos
  • tâl gwyliau
  • tâl salwch (yn y rhan fwyaf o achosion)

Gallwch gael mwy o wybodaeth am eich cyfrifoldebau dros ddarparu'r rhain yn adran 'cyflogaeth' cyffredinol Directgov.

Fel cyflogwr, rhaid i chi gael:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr
  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus

Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr yn eich gwarchod os bydd eich gofalwr yn cael damwain neu anaf wrth weithio i chi, mewn achosion lle allech chi gael eich dal yn gyfrifol.

Mae Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn eich gwarchod petaech chi neu eich gofalwr yn peri anaf neu niwed i rywun arall tra bo'ch gofalwr yn gweithio i chi.

Gallwch weithiau gynnwys Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus mewn polisi yswiriant cartref cynhwysfawr.

Os ydych chi'n cael taliadau uniongyrchol i dalu am eich gofal, rhaid i'ch awdurdod lleol gynnwys cost Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr yn y swm a gewch chi ganddynt.

Gallwch gael gwybod mwy am y ddau fath o yswiriant atebolrwydd ar wefan Business Link.

Creu datganiad cyflogaeth ysgrifenedig

Os ydych chi'n cyflogi gofalwr am fis neu fwy, rhaid i chi roi datganiad ysgrifenedig iddynt o'u telerau ac amodau gwaith o fewn dau fis i ddechrau gweithio i chi. Rhaid i'r datganiad gynnwys:

  • tâl
  • oriau gwaith
  • hawl gwyliau
  • trefniadau tâl salwch
  • cyfnodau rhybudd
  • gwybodaeth am drefniadau disgyblu a chwyno

Mae pecyn rhyngweithiol ar gael ar wefan Business Link i'ch helpu i greu datganiad cyflogaeth ysgrifenedig.

Os bydd eich gofalwr yn byw gyda chi

Os bydd eich gofalwr yn byw gyda chi, mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo gwerth y llety a ddarperir gennych. Gallwch gyfrif y swm hwn fel rhan o gyflog eich gweithiwr, ac mae'n cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Beth am ofal seibiant neu seibiannau byr?

Os mai aelod o'r teulu neu berthynas sy'n gofalu amdanoch fel arfer, efallai y byddwch am i ofalwr proffesiynol ymweld o bryd i'w gilydd i roi seibiant i'ch gofalwr rheolaidd. Gelwir hyn yn 'ofal seibiant' ac fe'i darperir fel arfer gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol. Ni fyddai gennych fel arfer unrhyw gyfrifoldebau cyflogaeth dros ofalwr seibiant.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU