Os yw salwch, anaf, damwain neu gyflwr iechyd sy'n dirywio yn achosi i rywun fynd yn anabl, gall effeithio ar sawl agwedd o'u bywyd. Mae'r erthygl hon yn rhestru rhai o'r pethau y mae angen i chi feddwl amdanynt o bosib.
Os oes gennych salwch cynyddol (rhywbeth sy'n datblygu dros amser neu mewn cyfnodau) neu anabledd sydyn a achoswyd, er enghraifft, gan ddamwain, bydd eich meddyg lleol yn ganolbwynt i lawer o'r gefnogaeth iechyd y byddwch chi'n ei derbyn.
Mae'n bosib y byddwch hefyd yn dod ar draws meddygon ac ymgynghorwyr mewn ysbytai a chlinigau sy'n arbenigo mewn rhai mathau penodol o gyflyrau ac anableddau.
Os ydych yn mynd yn anabl, mae'n bosib y byddwch yn gofyn am gymorth gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am y tro cyntaf yn eich bywyd. Cam cyntaf y broses yw cael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael pecyn cefnogaeth a allai gynnwys cymorth gofal cartref neu gyfarpar ac addasiadau i'ch iechyd a/neu'ch anabledd.
Efallai eich bod hefyd yn gymwys i gael grant i'ch helpu i addasu eich cartref neu gael cynnig llety arall megis tŷ â chefnogaeth.
Gall cadw mewn cysylltiad â phobl anabl eraill fod yn ffordd dda o gael cyngor a chefnogaeth anffurfiol - yn enwedig os mai newydd ddod yn anabl yr ydych chi.
Gall aelodau o'r teulu a ffrindiau gael eu hunain yn sydyn mewn rôl 'ofalu'. Mae ganddynt hwythau hefyd hawl i gael asesiad o'u hanghenion fel gofalwyr. Gallant fod yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol megis Lwfans Gofalwr.
Os ydych chi'n rhiant neu'n meddwl am fod yn rhiant, edrychwch ar ein gwybodaeth ynghylch cael babi, cymorth i rieni, ysgolion a llawer mwy.
Gall mynd yn anabl effeithio ar iechyd meddwl y person ar brydiau - yn aml mae angen cyfnod ymgyfarwyddo.
Os ydych chi'n profi problemau iechyd meddwl, gall eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall eich cyfeirio at arbenigwr megis seicotherapydd, nyrs seiciatrig gymunedol neu gwnselydd. Bydd y bobl broffesiynol hyn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â'ch problemau neu'ch pryderon.
Os ydych chi'n mynd yn anabl, mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol i'ch helpu i dalu'r costau ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i'ch anabledd.
Mae hyn yn amrywio o fudd-daliadau anabledd, megis y Lwfans Byw i'r Anabl, diddymu TAW ar gynnyrch a gwasanaethau sy'n ymwneud â'ch anabledd, lleihad yn y Dreth Gyngor neu grantiau i'ch helpu i addasu'ch cartref, os bydd angen.
Os ydych chi'n gweithio ac yn mynd yn anabl mae llawer o bethau y gallwch chi, a'ch cyflogwr, eu gwneud fel eich bod yn gallu parhau i weithio. Mae gennych hawliau cyflogaeth dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
Byddai addasu eich man gwaith, y prosesau a'ch dyletswyddau yn gallu cynnwys darparu cymhorthion ymarferol a chyfarpar technegol i'ch helpu, trefnu eich bod yn dychwelyd gam wrth gam i'r gwaith, cael cynnig cyflogaeth arall gyda'r un cwmni, oriau hyblyg neu waith rhan amser.
Os ydych chi mewn gwaith neu allan o waith, gall y Cynghorwyr Cyflogaeth i Bobl Anabl mewn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu mewn canolfannau gwaith roi cymorth a chyngor ar waith i chi.
Os ydych chi'n yrrwr, rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr meddygol neu anabledd a allai effeithio ar eich gyrru.
Os byddwch yn dod yn anabl, efallai y gallwch addasu eich cerbyd. Fel arall, mae amryw o ddewisiadau ar gyfer addasu eich cerbyd, gan gynnwys y cynllun Motability. Efallai hefyd y cewch eich eithrio rhag talu treth cerbyd hefyd.