Yn aml asesiad iechyd a gofal cymdeithasol gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol yw'r cam cyntaf ar gyfer cael cymorth a chefnogaeth. Mae'r asesiad hefyd yn cael ei alw'n 'asesiad angen'.
Yn yr asesiad, bydd arbenigwr - therapydd galwedigaethol yn aml - yn edrych ar eich anghenion unigol chi ac yn eu trafod gyda chi. Gwneir hyn er mwyn i chi gael y gefnogaeth briodol pan fo angen. Gall y gwasanaethau y bydd arnoch ei angen o bosib gynnwys gofal iechyd, cyfarpar, cymorth yn eich cartref a gofal preswyl.
Dylai canlyniad asesiad ddangos pa anghenion sydd bwysicaf a dylai arfarnu'r risgiau i chi pe na fyddai cymorth yn cael ei ddarparu.
Os yw'n briodol, bydd timau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol lleol yn llunio pecyn cymorth ar eich cyfer. Bydd hwn yn cael ei drafod gyda chi a bydd cynllun gofal ysgrifenedig yn cael ei lunio. Gall gynnwys gwasanaethau gan fudiadau preifat a gwirfoddol.
Os bydd angen gwasanaethau eraill arnoch megis cyngor ar dai neu fudd-daliadau, cewch eich rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau lleol perthnasol.
Gall y gwasanaethau gynnwys:
Mae rhai cynghorau lleol yn darparu 'Proses Asesiad Sengl ar gyfer Pobl Hŷn'. Gyda'ch cytundeb chi, mae gweithwyr cymdeithasol ac iechyd, nyrsys cymunedol a grwpiau eraill yn rhannu gwybodaeth. Mae hyn yn golygu nad oes yn rhaid i chi roi'r un wybodaeth i bob un ohonynt.
Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Fe'u rhoddir i unrhyw un yr aseswyd bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arnynt, a'u bod yn dymuno trefnu a thalu am eu gwasanaethau eu hunain yn hytrach na'u cael yn uniongyrchol gan y cyngor lleol.
Mae anghenion iechyd y rhan fwyaf o bobl yn newid dros amser. Dylai eich cynllun gofal gael ei adolygu'n rheolaidd. Fel isafswm, cynhelir adolygiadau dri mis ar ôl darparu'r gwasanaethau am y tro cyntaf neu ar ôl iddynt gael eu newid yn sylweddol, ac wedyn yn flynyddol. Dylid cynnal adolygiadau'n amlach os yw hynny'n briodol.
Os hoffech chi gael eich ailasesu oherwydd bod eich anghenion wedi newid, cysylltwch â'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol neu dîm iechyd cymunedol eich cyngor lleol.
Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i gael gwybod am asesiadau angen iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal chi. Mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am asesiad ar-lein. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol.
Os yw eich anabledd yn 'sylweddol ac yn barhaol', gallwch gofrestru fel person anabl gyda'ch cyngor lleol. Does dim angen cofrestru i gael gwasanaethau gan y cyngor lleol ond efallai y gall helpu i gael consesiynau megis talu llai am drafnidiaeth gyhoeddus. Dylai hefyd helpu eich cyngor lleol i gynllunio'u gwasanaethau.
Cysylltwch â'ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol a ddylai hefyd sicrhau bod rhywun ar gael i'ch helpu i lenwi'r ffurflen gofrestru os oes angen.