Gallwch gael aelodau artiffisial a phrosthetigau gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chael eu cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio am ddim.
Bydd eich ymgynghorydd yn yr ysbyty yn eich cyfeirio at eich 'Canolfan Gwasanaethau Anabledd' agosaf. Mae'r canolfannau hyn fel arfer i'w cael mewn ysbytai rhanbarthol.
Rhaid i bob aelod gael ei wneud a'i ffitio ar gyfer un claf yn arbennig a rhaid i'r holl broses feddygol, ffitio a chefnogi gael ei gwneud dan oruchwyliaeth glinigol arbenigol. Dylech hefyd dderbyn hyfforddiant am sut i ddefnyddio'ch aelod artiffisial.
Os oes angen teclyn meddygol arnoch, bydd eich meddyg yn eich cyfeirio at weithiwr proffesiynol gofal iechyd a all darparu teclyn i chi a fydd yn addas i’ch anghenion neu ei gael ar bresgripsiwn.
Dyma rai enghreifftiau ohonynt: