Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond efallai y codir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth tuag at gostau rhai triniaethau, gwasanaethau ac eitemau, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.
Os ydych yn un o'r grwpiau isod, efallai y bydd gennych hawl i'r canlynol:
Efallai fod gennych hawl i rai neu'r cyfan o'r uchod oherwydd eich oed (ifanc neu hen), cyflwr meddygol neu oherwydd eich bod yn derbyn Pensiwn Anabledd Rhyfel neu bod gennych dystysgrif eithrio Pensiwn Rhyfel.
Mae gennych hawl i bob un o'r uchod, os ydych chi a/neu eich partner yn cael:
Os ydych ar incwm isel, a ddim yn dod dan Grwp 1 na 2, efallai y cewch gymorth gyda'ch costau iechyd trwy wneud cais dan Gynllun Incwm Isel y GIG.
Mae'r llyfryn HC11 'A oes gennych hawl i gael cymorth tuag at gostau iechyd?' yn ffynhonnell wybodaeth fanwl a defnyddiol. Mae ar gael mewn prif swyddfeydd post, y Ganolfan Byd Gwaith neu ysbytai'r GIG. Efallai y bydd gan eich meddyg, deintydd, optegydd neu fferyllydd lleol gopi hefyd.
Gallwch gael copi drwy ffonio llinell archebu ffurflennu’r GIG.
Ffôn: 08701 555 455, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8.00 am - 6.00 pm
Dyfynnwch rif cyfeirnod HC11
Gallwch lwytho'r daflen i lawr ar ffurf PDF hefyd o wefan yr Adran Iechyd.
Grwp 1 a grwp 2
I gael help os ydych o fewn Grwp 1 neu 2, llenwch gefn eich ffurflen bresgripsiwn, neu dywedwch wrth eich deintydd neu optegydd pan fyddwch yn mynd am driniaeth ddeintyddol neu optegol. Os ydych yn hawlio cymorth ar gyfer costau teithio i ysbyty neu ar gyfer wigiau neu staesiau ffabrig, dywedwch wrth yr ysbyty.
Grwp 3
Os ydych yn Grwp 3 ac am hawlio ar sail incwm isel, neu cyn bod eich cais am fudd-dal wedi'i setlo, ceisiwch ffurflen HC11 y ceir ei manylion uchod.
Mae ar gael o swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith neu ysbytai’r GIG. Mae’n bosib bydd gan eich meddyg, deintydd, fferyllydd ac optegydd gopi hefyd.
Gallwch gael copi drwy ffonio llinell archebu ffurflennu’r GIG.
Ffôn: 0845 610 1112, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 8.00 am - 6.00 pm
Dyfynnwch rif cyfeirnod HC11
Gallwch lwytho'r daflen i lawr ar ffurf PDF hefyd o wefan yr Adran Iechyd.