Gall teithio yn ôl ac ymlaen o'r ysbyty fod yn anodd i chi oherwydd y gost, hyd y siwrnai neu ei chymhlethdod, neu ddiffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu breifat.
Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio er mwyn cael triniaeth gan y GIG ar ôl i chi gael eich cyfeirio gan feddyg neu ddeintydd.
Mae'r Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd ar gyfer cleifion nad oes ganddynt angen meddygol sy'n cyfiawnhau cael ambiwlans ac nad ydynt yn gallu fforddio cost teithio.
Efallai fod gennych hawl i gael arian drwy'r Cynllun os ydych yn derbyn, er enghraifft, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Gall rhai pobl sy'n derbyn credydau treth gael cymorth hefyd.
Gallech hefyd gael cymorth gyda chostau teithio person arall, os oes angen rhywun i deithio gyda chi am resymau meddygol. Ystyrir eu costau teithio hwy fel rhan o'ch costau teithio chi.
Mae'r llyfryn HC11 'Cymorth gyda chostau iechyd' yn ffynhonnell wybodaeth fanwl a defnyddiol. Mae ar gael o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith neu ysbytai'r GIG. Efallai y bydd gan eich meddyg, eich deintydd, eich optegydd neu fferyllydd lleol gopi hefyd.
Gallwch hefyd archebu copi drwy linell archebu ffurflenni'r GIG:
Rhif ffôn: 0845 610 1112 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 6.00 pm)
Dyfynnwch y cyfeirnod 'HC11'.
Gallwch hefyd lwytho'r daflen ar ffurf PDF oddi ar wefan yr Adran Iechyd.