Gall cyfnod mewn ysbyty effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn, gan gynnwys Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini, a Budd-dal Analluogrwydd. Os bydd rhywun yn derbyn Lwfans Gweini gan eu bod yn gofalu amdanoch chi, gall mynd i'r ysbyty effeithio ar hyn hefyd.
Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ni fydd unrhyw beth fel arfer yn digwydd i'ch Lwfans Byw i'r Anabl yn syth.
Os yw'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu i berson 16 oed neu hŷn, bydd yn stopio fel arfer os yw'r person wedi bod yn yr ysbyty am 4 wythnos.
Os telir y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer plentyn dan 16 oed, bydd yn stopio fel arfer wedi i'r plentyn fod yn yr ysbyty ar ôl 12 wythnos.
Bydd y Lwfans Gweini'n stopio fel arfer wedi i chi fod yn yr ysbyty am bedair wythnos.
Bydd y Budd-dal Analluogrwydd neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn stopio fel arfer wedi i chi fod yn yr ysbyty am 52 wythnos.
Rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr pan fyddwch yn mynd i mewn i'r ysbyty ac yn gadael. Rhaid i chi hefyd ddweud os oes rhywun yr ydych yn cael budd-dal ar ei gyfer yn mynd i'r ysbyty neu'n gadael.
Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa Canolfan Waith os ydych wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos a bod rhan o'ch budd-dal yn cael ei dalu i blentyn neu oedolyn arall. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i’ch Canolfan Waith pan fyddwch yn gadael yr ysbyty.
Os bydd rhywun yn derbyn Lwfans Gweini gan eu bod yn gofalu amdanoch chi, gall hyn barhau am hyd at 12 wythnos os byddwch chi - neu nhw - yn mynd i'r ysbyty. Fodd bynnag, bydd y Lwfans Gweini'n stopio os bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl neu'ch Budd-dal Analluogrwydd yn stopio. Fel arfer, bydd hyn ar ôl i chi fod yn yr ysbyty am bedair wythnos.
Rhaid i ofalwyr am ddweud wrth y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr os ydynt hwy, neu'r sawl y maent yn gofalu amdanynt, yn mynd i mewn neu'n dod allan o'r ysbyty. Gall gofalwyr hefyd roi gwybod am gyfnodau mewn ysbytai ar-lein hefyd gan ddefnyddio e-wasanaeth y Lwfans Gofalwr. Gallant hefyd gysylltu â'r uned Lwfans Gofalwr yn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.