Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Argyfwng iechyd meddwl

Os bydd cyflwr meddyliol neu emosiynol person yn dirywio'n gyflym, gellir galw hyn yn argyfwng iechyd meddwl neu'n achos brys iechyd meddwl. Yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig cael help yn gyflym.

Os byddwch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt, yn profi teimladau fel hyn, mae'n bwysig cael help ar unwaith. Mae sawl ffordd o gael help, a hynny os ydych chi wedi cael y math hwn o deimladau o'r blaen ai peidio.

Eich cynllun gofal

Os oes gennych chi gynllun gofal, bydd yn cynnwys enwau a rhifau i'w ffonio mewn argyfwng. Os ydych chi'n cael triniaeth am salwch meddwl, neu wedi derbyn triniaeth o'r fath, dylai fod gennych chi gynllun gofal.

Lle i fynd am gymorth

Os nad oes gennych chi gynllun gofal, neu os na allwch ei ganfod, gallech:

  • wneud apwyntiad brys gyda'ch meddyg neu ffonio gwasanaeth y tu allan i oriau eich meddygfa os bydd yr argyfwng yn digwydd gyda'r nos neu ar y penwythnos
  • ffonio eich gweithiwr iechyd meddwl neu gydlynydd gofal os oes gennych chi un
  • ffonio eich tîm argyfwng iechyd meddwl lleol
  • mynd i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol

Tîm argyfwng iechyd meddwl

Mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd dîm argyfwng iechyd meddwl. Mae'r timau hyn yn cynnwys nyrsys seiciatrig, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cynnal, ac maent:

  • ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
  • yn ymateb i argyfwng o fewn pedair awr lle bynnag y bo'n bosibl
  • yn cynnal asesiadau dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (1983)
  • yn darparu cefnogaeth a chymorth tymor byr nes y bydd tîm arall ar gael neu nad oes angen help mwyach

Mae timau argyfwng iechyd meddwl yn rhan o'r gwasanaethau cymdeithasol, a gallwch ganfod eu manylion cyswllt drwy eich cyngor lleol.

Os ydych yn gofalu am rywun

Os ydych chi'n teimlo bod rhywun yn berygl iddo'i hun neu i bobl eraill, ffoniwch dîm gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Os oes perygl ar unwaith, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Os oes arnoch angen siarad â rhywun

Os hoffech ffonio rhywun i ddweud sut rydych chi'n teimlo, neu sut y byddwch yn ymdrin ag ymddygiad rhywun arall, gallech gysylltu ag NHS Direct neu'r Samariaid.

NHS Direct

Ffôn: 0845 46 47

Ffôn testun: 0845 606 46 47

Gall nyrsys hyfforddedig roi cymorth a chefnogaeth i chi 24 awr y diwrnod.

Y Samariaid

Ffôn: 08457 90 90 90

Ffôn testun: 08457 90 91 92

Mae'r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24-awr dros y ffôn. Gallwch hefyd gysylltu â hwy drwy e-bost neu ysgrifennu atynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU