Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i iechyd meddwl

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar bobl unrhyw bryd ac mewn gwahanol ffyrdd. Gall y problemau hyn gynnwys pryder, iselder, sgitsoffrenia, niweidio'ch hun a dementia.

Pryd fydd anhwylder iechyd meddwl yn dod yn 'anabledd'

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt broblem iechyd meddwl sy'n cael effeithiau hirdymor ar eich gallu chi/eu gallu nhw i fyw bywyd bob dydd, yna mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn ystyried hyn yn anabledd ac yn nodi nifer o hawliau cyfreithiol sylfaenol.

Diffinnir 'hirdymor' fel anhwylder sydd wedi para, neu'n debygol o bara, o leiaf 12 mis.

Eich meddyg lleol (meddyg teulu)

Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl, neu am iechyd meddwl ffrind neu berthynas agos, dylech gysylltu â'ch meddyg. Gallan nhw gynnig cyngor i chi neu'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol.

Bydd gan bob meddyg lleol dimau o bobl broffesiynol at eu gwasanaeth a staff cymorth sy'n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau a gwahanol ffyrdd o helpu. Fel arfer, bydd y tîm yn cynnwys:

  • nyrsys seiciatrig cymunedol
  • gweithwyr cymdeithasol seiciatrig
  • seiciatryddion ymgynghorol
  • seicolegwyr clinigol
  • therapyddion galwedigaethol

Lle bo angen, bydd y rhain yn cydweithio'n glos i ddarparu cymorth a gwasanaethau.

Fodd bynnag, os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus gyda'ch meddyg, fe ddylech allu:

  • gofyn am weld meddyg arall yn y feddygfa
  • gofyn am weld y nyrs yn y practis (os oes un)
  • cofrestru gyda meddygfa newydd

Cefnogaeth gan bobl eraill

Cyfeillion a pherthnasau

Yn aml iawn, bydd ffrindiau a pherthnasau'n sylwi ar newidiadau ynoch chi ac yn poeni amdanoch, felly fe allai siarad â nhw dawelu eu meddwl nhw a'ch helpu chithau hefyd. Fe allwch chi ofyn i rywun fynd gyda chi i'ch apwyntiad gyda'r doctor os ydych chi'n poeni am ymweld â'r doctor ar eich pen eich hun.

Gwasanaethau arbenigol

Mae'n bosib y bydd eich doctor yn eich cyfeirio at arbenigwr megis seiciatrydd, seicotherapydd, nyrs seiciatrig gymunedol neu'n awgrymu y dylech gysylltu ag un ohonynt. Bydd y bobl broffesiynol hyn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio gyda'ch problemau.

Os ydych chi dan 18 mlwydd oed

Ceisiwch siarad â'ch rhiant/rhieni neu â rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant drosoch. Fe allech chi siarad ag athro, gweithiwr ieuenctid neu feddyg neu ffonio ChildLine.

Myfyrwyr

Mae'n bosib bod gan eich coleg neu'ch prifysgol gwnselydd y gallech siarad ag ef/hi. Fe allai'r cwnselydd:

  • gynnig sesiynau cwnsela rheolaidd i chi sgwrsio am eich meddyliau a'ch teimladau
  • eich cyfeirio at eich meddyg i gael meddyginiaeth neu wasanaethau arbenigol
  • eich cynghori am y gwasanaethau addysg eraill a allai helpu, megis siarad â swyddog llety (os oes un) os yw eich amgylchiadau byw'n cyfrannu at eich salwch.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch gwasanaethau i fyfyrwyr.

Gwasanaeth cymorth cyfrinachol dros y ffôn i fyfyrwyr yw Nightline. Mae'n cael ei redeg gan wasanaeth Nightline Llundain, ac mae'n bosib dod o hyd i wasanaethau Nightline eraill ar gyfer prifysgolion eraill.

Ffyrdd eraill o gael cymorth a chyngor

Pobl eraill a allai eich helpu yw ymwelwyr iechyd, elusennau a grwpiau hunan-gymorth a chyflogwyr. Mae’r dudalen cysylltiadau iechyd meddwl yn rhestru nifer o fudiadau sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl gwahanol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU