Os byddwch angen gofal nyrsio neu gefnogaeth gartref, gall nyrs gymunedol neu ymwelydd iechyd helpu.
Mae nyrsys cymunedol (a elwir hefyd yn ymwelwyr iechyd) yn nyrsys cofrestredig sy'n gweithio yn y gymuned - mewn cartrefi pobl, mewn ysgolion ac mewn meddygfeydd a chanolfannau iechyd lleol a chymunedol.
Efallai fod y bobl y maent yn gweithio â hwy'n sâl neu'n anabl neu bod ganddynt broblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Maent yn ymwneud â phobl y gall eu hiechyd fod yn arbennig o fregus megis pobl hwn, plant neu bobl gydag anableddau dysgu.
Gall nyrsys cymunedol roi help a chyngor ar ystod eang o faterion yn ymwneud â iechyd. Maent yn ymweld â phobl gartref i roi gofal nyrsio (er enghraifft, i newid rhwymau, i roi pigiadau) ac i helpu pobl i gael unrhyw gymhorthion ac offer nyrsio gartref y gall fod eu hangen arnynt. Efallai y gallant hefyd ddysgu sgiliau gofal sylfaenol i deuluoedd a gofalwyr.
Mae nyrsys cymunedol yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol lleol ac ysbytai. Gall eich Meddyg Teulu eich cyfeirio at wasanaeth nyrsio cymunedol. Os byddwch yn gadael yr ysbyty, gall yr ysbyty drefnu bod nyrs gymunedol yn ymweld â chi'n rheolaidd fel rhan o drefniadau 'gofal parhaus'