Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl â nam corfforol, cyflwr meddygol, problem iechyd meddwl neu anabledd dysgu. Maent yn helpu pobl sy'n cael anawsterau gyda thasgau dyddiol ymarferol.
Nod therapi galwedigaethol yw eich galluogi chi i fyw mor annibynnol â phosibl - gartref, yn y gwaith neu mewn addysg. Bydd therapyddion galwedigaethol yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydweithio'n agos gyda'r gwasanaethau iechyd, tai ac addysg.
Gall therapydd galwedigaethol eich helpu i addasu i newidiadau yn eich bywyd bob dydd a goresgyn problemau ymarferol. Maent yn gwneud hyn drwy:
Mae gan therapyddion galwedigaethol wybodaeth arbenigol a gallant roi cyngor i chi am gyfarpar anabledd, addasiadau tai ac addasiadau i'r gweithle.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Grant Cyfleusterau Anabl tuag at gost addasu eich cartref. Bydd therapydd galwedigaethol yn cyfrannu at y broses o asesu eich anghenion.
Pan fo angen, bydd therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phaediatregwyr (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd plant a datblygiad plant), ffisiotherapyddion, therapyddion iaith a lleferydd a gweithwyr proffesiynol eraill i helpu eich plentyn i symud o gwmpas a dod yn fwy annibynnol.
I rai plant, mae'n hanfodol mynd i'r afael â phroblemau cydbwysedd ac ymddaliad cyn gynted â phosibl, gan y gall hyn gael effaith fawr ar eu cydsymudiad a'u gallu i gerdded yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Yn aml, bydd therapyddion galwedigaethol yn rhoi cyfres o weithgareddau dyddiol i blant eu gwneud yn y cartref, yn yr ysgol neu'r ddau.
Os oes gennych chi blentyn anabl, gallwch drefnu cael asesiad o'i anghenion o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai hyn hefyd gynnwys unrhyw gyfarpar 'bob dydd' y mae ei angen yn ogystal â chyngor am faterion hygyrchedd sy'n ymwneud ag addysg eich plentyn.
Cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Gall eich meddyg lleol - neu eich ymgynghorydd os oes gennych un - hefyd eich helpu i drefnu hyn.
Gall y gwasanaethau cymdeithasol drefnu i therapydd galwedigaethol neu weithiwr cymdeithasol wneud asesiad o'ch anghenion neu o anghenion eich plentyn. Gellir trefnu i ymweld â chi gartref.
Mae adrannau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio, ond fel arfer bydd ganddynt ganllawiau i benderfynu pa wasanaethau y bydd pobl yn eu derbyn a pha mor gyflym y byddant yn eu cael. Os oes angen cyfarpar hanfodol, addasiadau neu gefnogaeth bersonol arnoch, trefnir i chi weithio gyda therapydd galwedigaethol cyn gynted â phosibl.
Os yw eich anabledd yn cael effaith ganolig neu fach ar eich bywyd bob dydd, efallai y bydd rhaid i chi aros am sawl wythnos.
Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio fel rhan o dimau ailsefydlu sy'n helpu cleifion ysbyty i ddychwelyd adref. Mae hyn yn cynnwys pobl y mae eu hanabledd yn gwaethygu neu bobl sydd newydd ddod yn anabl oherwydd damwain neu gyflwr meddygol.