Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ffisiotherapi

Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl sy'n cael problemau gyda'u cymalau, pobl gydag anhwylderau ar y frest, poen neu drafferthion wrth symud a phroblemau gyda chydbwysedd neu reoli'u haelodau.

Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl sy'n cael problemau gyda'u cymalau, pobl gydag anhwylderau ar y frest, poen neu drafferthion wrth symud a phroblemau gyda chydbwysedd neu reoli'u haelodau.

Mae gan ffisiotherapyddion sgiliau arbenigol ar gyfer rhoi triniaeth gorfforol i bobl a'u hadfer, a chynigiant amrywiaeth o wahanol therapïau gan gynnwys ymarfer, electrotherapi a therapi â llaw.

Rôl y ffisiotherapydd yw gwella gallu person i symud a'i annibyniaeth. Gellid gwneud hyn drwy eu helpu i wella o haint ar y frest, rheoli poen neu eu helpu i symud ar ôl strôc. Gall y dull gweithredu hwn atal rhywun rhag gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty, gall gyflymu'r broses wella yn yr ysbyty a gall arwain at y claf yn cael mynd adref yn gynt. Gall ffisiotherapyddion weithio'n annibynnol neu mewn timau mwy sy'n arbenigo mewn meysydd iechyd a gofal meddygol gwahanol. Maent yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd ac mewn canolfannau arbenigol. Maent hefyd yn gweithio yn y sector preifat a gwirfoddol, ym maes addysg a diwydiant preifat.

Gellir cael gafael ar ffisiotherapyddion yn uniongyrchol neu drwy gael eich cyfeirio gan feddyg neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall.

Rhaid i ffisiotherapyddion sy'n gweithio yn y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd (CPI).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU