Efallai fod gennych hawl i gael profion golwg am ddim dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â'r golwg. Os nad ydych yn gallu gadael eich cartref, gallwch drefnu i optegwr neu optometrydd ddod atoch.
Mae optegwyr ac optometryddion yn cynnal profion golwg ac yn ffitio sbectols a lensys cyffwrdd. Maent hefyd yn gallu gweld a oes unrhyw broblemau neu haint ar y llygaid, ac yn cyfeirio achosion at offthalmolegydd ymgynghorol mewn ysbyty os oes angen.
Os ydych yn colli'ch golwg, mae cymhorthion ar gael a all eich helpu i ddefnyddio'r golwg sydd gennych. Gellir cael cymhorthion ar gyfer golwg gwael dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy'r Gwasanaeth Llygad yn yr ysbyty neu'n breifat drwy optegwyr offthalmig. Siaradwch â'ch meddyg yn gyntaf.
Os bydd offthalmolegydd ymgynghorol mewn ysbyty yn tystio bod gennych nam difrifol ar eich golwg/eich bod yn ddall, neu bod gennych nam ar eich golwg/eich bod yn rhannol ddall, gallwch ofyn am gael eich cofrestru gyda'r cyngor lleol. Drwy gofrestru fel person dall, mae gennych hawl i gonsesiynau penodol, gan gynnwys y cynllun parcio Bathodyn Glas a gostyngiad ar eich trwydded deledu. Dylech gofio nad oes gan bob cyngor lleol system gofrestru.
Gall y gwasanaethau gynnwys:
Efallai fod gan eich cyngor lleol gytundeb â mudiad gwirfoddol sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yn hytrach na'i fod yn darparu'r holl wasanaethau hyn ei hun.
Er mwyn dysgu sut i gael y gorau o olwg cyfyngedig, rhaid cael cyngor a hyfforddiant proffesiynol. Mae nifer o fudiadau sy'n cynnig cymorth i bobl ddal a phobl sy'n rhannol ddall – un o'r rhai mwyaf yw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB).
Rhif ffôn: 0845 766 9999
Ceir mudiadau eraill sydd weithiau'n arbenigo mewn un maes fel cyflogaeth, addysg neu chwaraeon. Edrychwch ar y rhestr cysylltiadau am fanylion.