Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaethau a gofal clyw

Os ydych yn cael problemau gyda'ch clyw, cysylltwch â'ch meddyg lleol neu'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i gael gwybod am yr amrywiol wasanaethau sydd ar gael.

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Os ydych dros 16 oed, mae therapyddion clyw ar gael yn rhai o ardaloedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i'ch helpu i addasu i golli'ch clyw. Gallant ddarparu rhaglen unigol o gefnogaeth a hyfforddiant cyfathrebu a chwnsela ar eich cyfer ac, os oes raid, ar gyfer y bobl yr ydych yn byw gyda hwy.

Gallant hefyd roi cyngor i chi am gyfarpar a gwasanaethau. Mae'r GIG yn darparu cymhorthion clyw ac mae'r gwaith o'u cynnal a'u cadw am ddim.

Cyfarpar a chefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol

Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn amrywio o ran y cyfarpar a'r gwasanaethau cefnogi a ddarparant ac a ydynt yn codi tâl am y rheini. Fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu am gyfarpar gan mai ei fenthyg y byddwch.

Gallant ddarparu gwybodaeth i chi am:

  • wasanaethau dehonglydd ar gyfer defnyddwyr iaith arwyddion
  • dosbarthiadau darllen gwefusau a drefnir gan y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod addysg lleol, clybiau neu glinigau
  • clybiau cymdeithasol a redir gan grwpiau gwirfoddol neu'r awdurdod lleol

Mae'r manylion ar gael yn eich llyfr ffôn lleol dan enw'ch cyngor lleol. Gofynnwch am gael siarad gyda'r Tîm Cymorth Synhwyraidd neu'r person sy'n gweithio gyda phobl fyddar neu bobl drwm eu clyw. Efallai y bydd manylion eich cyngor lleol yn cynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn testun hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU