Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Therapi iaith a lleferydd

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn asesu ac yn trin plant ac oedolion gydag anawsterau iaith a llefaru.

Gall yr anawsterau hyn fod o ganlyniad i'r canlynol:

  • anableddau dysgu
  • strôcs
  • anafiadau i'r pen
  • cyflyrau niwrolegol

Mae therapyddion iaith a lleferydd hefyd yn asesu ac yn trin anawsterau gyda bwyta ac yfed (cnoi, sugno a llyncu).

Gweithiant mewn ysbytai, gofal sylfaenol ac yn y gymuned ac mewn ysgolion a chartrefi pobl. Gallant hefyd weithio yn y sector preifat a gwirfoddol. Rhaid i therapyddion iaith a lleferydd sy'n gweithio yn y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd.

Gellir cael mynediad at therapyddion iaith a lleferydd yn uniongyrchol neu drwy gael eich cyfeirio gan feddyg neu ymarferydd gofal iechyd arall.

Yn ogystal, ceir sawl mudiad gwirfoddol sy'n helpu ac yn cefnogi pobl gydag anhwylderau cyfathrebu ac sy'n gallu darparu cyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU