Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ymdrin ag asesu a thrin pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl, a’u hawliau.
Mae llawer o bobl yn derbyn gofal a thriniaeth iechyd meddwl arbenigol yn y gymuned. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dioddef problemau iechyd meddwl difrifol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fynd i ysbyty i'w hasesu a chael triniaeth.
Gellir cadw pobl heb eu caniatâd dim ond os bodlonir y meini prawf llym a nodir yn y Ddeddf. Rhaid i'r person fod yn dioddef o anhwylder meddwl a ddiffinnir gan y Ddeddf.
Rhaid i gais am asesiad neu driniaeth gael ei gefnogi ar bapur gan ddau ymarferydd meddygol cofrestredig. Rhaid i'r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch pam fod asesiad a/neu driniaeth yn ofynnol, a pham nad yw dulliau eraill o ddelio gyda'r claf yn briodol.
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn triniaeth mewn ysbytai neu unedau seiciatrig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl yno'n wirfoddol ac mae ganddynt yr un hawliau â phobl sy'n derbyn triniaeth am salwch corfforol.
Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid cadw nifer fechan o gleifion yn erbyn eu hewyllys o dan un o adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae'r Ddeddf yn esbonio pwy sy'n gysylltiedig â'r penderfyniad i orfodi rhywun i fynd i ysbyty, ac aros yno, a hefyd yn esbonio hawl yr unigolyn neu ei berthynas agosaf i apelio.
Mae gweithwyr cymdeithasol cymeradwy wedi'u hyfforddi ym maes iechyd meddwl a'r gyfraith sy'n berthnasol i'r maes hwnnw. Fe'u penodir gan awdurdodau lleol i gyfweld ac asesu pobl a gallant wneud cais am eu hanfon i ysbyty os teimlant mai eu cadw yn yr ysbyty yw'r ffordd fwyaf priodol o ddarparu gofal a thriniaeth.
Mae'r Ddeddf yn rhoi rhai hawliau i'r perthynas agosaf y gellir eu defnyddio i ddiogelu buddiannau'r claf. Fel arfer, y perthynas agosaf yw'r person hynaf o'r ddau berson sydd uchaf ar y rhestr ganlynol, ni waeth beth fo'u rhyw:
O'r rhestr uchod, mae'n debyg taw'r person sy'n byw gyda'r claf neu sy'n gofalu amdano fyddai'n cael ei ystyried fel y perthynas agosaf. Gall person sydd ddim yn perthyn, ond sydd wedi byw gyda'r claf am o leiaf bum mlynedd, hefyd gael ei ystyried fel perthynas agosaf.
Mae gan y perthynas agosaf hawl i'r canlynol:
Dim ond y Llys Sirol all newid penodiad y perthynas agosaf. Gall pŵer rhyddhau'r perthynas agosaf gael ei ddileu gan y meddyg sy'n gyfrifol am driniaeth y claf, os yw'r meddyg yn credu bod y claf yn debygol o ymddwyn yn beryglus os yw'n cael ei ryddhau.
Crynodeb o'r Ddeddf
Adrannau sifil mwyaf cyffredin y Ddeddf trwy'r hyn y gellir gorfodi cleifion i fynd i ysbyty yw:
- adran 2 : derbyn i ysbyty am hyd at 28 diwrnod am asesiad
- adran 3 : derbyn i ysbyty am hyd at chwe mis ar gyfer triniaeth
- adran 4 : derbyn ar frys am hyd at 72 awr
Mae gan yr elusen iechyd meddwl 'Mind' arweiniad i'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar ei wefan.
Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau am Y Ddeddf Iechyd Meddwl ar wefan yr Adran Iechyd.