Cefnogi Pobl yw rhaglen y llywodraeth ar gyfer ariannu, cynllunio a monitro gwasanaethau cefnogi sy'n gysylltiedig â thai. Ei nod yw gwella safon ac effeithiolrwydd y gwasanaethau cefnogi ar lefel leol.
Mae Cefnogi Pobl yn darparu cefnogaeth sy'n gysylltiedig â thai i helpu pobl fregus fyw mor annibynnol ag sy'n bosibl yn y gymuned. Gall hyn fod yn eu cartrefi eu hunain neu mewn hosteli, mewn tai gwarchod neu mewn tai â chefnogaeth arbenigol arall.
Gall ddarparu cefnogaeth ategol i bobl sydd angen gofal meddygol neu bersonol hefyd. Dim ond ariannu cefnogaeth dai y mae Cefnogi Pobl ond gall fod yn rhan o becyn o gefnogaeth a ariennir trwy ddulliau gwahanol ond sy'n gydlynus ac sy'n diwallu anghenion unigolion. Mae Cefnogi Pobl yn cynnig cefnogaeth gyda'r canlynol:
Ceir mwy am y rhaglen Cefnogi Pobl ar wefan Cefnogi Pobl - Supporting People.