Grant gan y cyngor lleol yw'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i gynorthwyo gyda chost gwneud addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw yno.
Cysylltwch ag adran dai neu adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol a gofyn iddynt anfon ffurflen gais atoch cyn i ddechrau ar y gwaith - ni fyddwch yn cael grant fel arfer os byddwch yn dechrau ar y gwaith cyn i'r cyngor gymeradwyo'r cais.
Rhaid i chi wneud cais ar ffurflen gais y cyngor.
Rhaid i'r cyngor lleol eich hysbysu o ganlyniad eich cais, drwy lythyr, ymhen chwe mis fan bellaf ar ôl dyddiad y cais.
Gwneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn eich ardal leol
Eich awdurdod lleol fydd yn penderfynu a fyddant yn dyfarnu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Fel gydag unrhyw waith adeiladu, rhaid i chi wneud cais ar wahân am unrhyw gymeradwyaeth sy'n ofynnol o ran caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladu.
Mae'n bwysig sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn. Os oes angen gwneud gwaith sylweddol, efallai y bydd y cyngor yn mynnu eich bod yn cyflogi pensaer neu syrfëwr cymwys i gynllunio a goruchwylio'r gwaith. Os byddwch yn cael grant, gellir cynnwys cost eu ffioedd yng nghost y gwaith.
Safon y gwaith
Nid oes gan eich cyngor lleol unrhyw gyfrifoldeb dros safon y gwaith a wneir gan adeiladwr a rhaid i chi ddatrys unrhyw broblemau gyda'r adeiladwr.
Weithiau caiff y grant ei dalu mewn rhandaliadau ac weithiau caiff ei dalu'n llawn ar ôl cwblhau'r gwaith. Weithiau mae'r cyngor yn talu'r contractwr yn syth (ar ôl cytuno i hynny ar y dechrau gyda chi), neu roi siec i chi i'w rhoi i'r contractwr.
Gwneir y taliadau:
Os gwnaethpwyd y gwaith gan yr ymgeisydd neu berthynas, dim ond anfonebau am ddeunyddiau neu wasanaethau a brynwyd sy'n dderbyniol.
Os gwrthodir Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i chi, neu os rydych chi'n anhapus gyda'r swm a ddyfarnwyd i chi, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad y swyddog. Gofynnwch i'ch cyngor lleol am eu trefn gwyno ac apelio.
Gallwch gael cyngor ynghylch sut i addasu eich eiddo gan:
Cynghorau lleol sy'n gyfrifol am weinyddu'r Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.
Os oes gennych ymholiadau polisi cyffredinol am y Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.
Rhif ffôn: 020 7944 3442
E-bost: disabledfacilitiesgrants@odpm.gov.uk
Gallwch hefyd lwytho'r daflen 'Disabled Facilities Grant' i lawr oddi ar wefan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.