Gall cyfarpar arbenigol ac addasiadau ei gwneud yn llawer haws i chi fyw yn annibynnol yn eich cartref eich hun. Mae'r offer sydd ar gael yn amrywio o gyfarpar mawr megis lifft grisiau a hoistiau i declynnau llai ar gyfer pobl ag anableddau penodol.
Nid yw'r adran hon yn delio gyda chyfarpar a chymhorthion iechyd personol megis fframiau cerdded a chymhorthion clyw. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rhain yn yr adran pobl anabl - Iechyd a chefnogaeth.
Os oes gennych anabledd corfforol, ac yn enwedig os ydych yn defnyddio cadair olwyn, efallai y bydd angen cyfarpar a gosodion parhaol arnoch yn eich cartref er mwyn i chi allu byw'n annibynnol yno. Dyma rai mathau o gyfarpar ac addasiadau a allai fod o ddiddordeb i chi:
Efallai hefyd y bydd angen gwneud gwaith addasu yn eich cartref - er enghraifft, gwneud y drysau'n fwy neu osod ramp.
Mae ystod eang o declynnau ac offer ar gael i wneud tasgau bob dydd yn haws i bobl ag anableddau penodol. Dyma ychydig o enghreifftiau:
Yn dibynnu ar ba mor bwysig yw'r eitemau hyn i'ch annibyniaeth ym marn eich cyngor lleol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt eich hun a defnyddio'ch taliadau uniongyrchol ar gyfer yr eitemau mwy sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'ch gallu i fyw'n annibynnol.
Mae taflen ffeithiau'r Sefydliad Byw'n Anabl 'Making a difference' yn gyflwyniad defnyddiol i'r holl eitemau sydd ar gael.
Weithiau, nid cyfarpar yw'r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu'ch anghenion. Yn hytrach na phrynu cyfarpar, efallai y gallwch newid eich ffordd o wneud pethau bob dydd er mwyn eu gwneud yn haws. Gall therapydd galwedigaethol awgrymu ffyrdd eraill nad ydych wedi'u hystyried o wneud pethau.
Un ystyriaeth bwysig yn aml i bobl anabl sy'n dymuno byw'n annibynnol gartref yw gallu gofyn am gymorth yn syth mewn argyfwng. Un ateb i hyn yw cael system larwm personol.
Mae systemau larwm personol (a elwir hefyd yn wasanaethau larwm cymunedol) yn gweithio drwy uned sylfaen yn eich cartref, sydd wedi'i chysylltu â'ch llinell ffôn. Trwy wasgu botwm ar yr uned neu ar y pendant y byddwch yn ei wisgo o gwmpas eich gwddf, rydych yn cael eich cysylltu â gweithredydd sy'n gallu trefnu'r cymorth yr ydych ei angen.
Mae gan rai elusennau - megis Age Concern, er enghraifft - systemau larwm personol a ddefnyddir gan bobl anabl, pobl hŷn a phobl lai abl.
Gall taflen ffeithiau'r Sefydliad Byw'n Anabl 'Choosing a personal alarm system' eich helpu i benderfynu ar ba system larwm personol fyddai'n addas i chi.
Mae gan ddyfeisiau 'tele-ofal' eraill, sy'n gweithio mewn ffordd debyg i systemau larwm personol, synwyryddion symudiad sy'n gallu dweud pan fydd rhywun wedi disgyn a ddim yn gallu codi. Mae dyfeisiau tele-ofal sy'n gallu canfod, mwg, dŵr yn gorlifo a gollyngiadau nwy ar gael hefyd.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaethau larwm cymunedol (a elwir hefyd yn systemau larwm personol). Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Bydd cael y cyfarpar iawn gartref yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd eich bywyd, ac felly mae'n gwneud synnwyr cael cyngor a phrofi'r cyfarpar cyn prynu. Canllaw yw'r erthygl 'Profi, dewis a phrynu cyfarpar' i ble y gallwch gael cyngor, sut y gallwch ddefnyddio'ch taliadau uniongyrchol i brynu cyfarpar a mwy.
Os ydych yn anabl, efallai y bydd angen cymhorthion a chyfarpar arbennig arnoch yn eich gwaith i'ch helpu chi i wneud eich gwaith.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, rhaid i'ch cyflogwr ystyried gwneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith. Gall hyn gynnwys darparu cymhorthion a chyfarpar.
Gall eich cyflogwr gael cymorth ariannol gan raglen 'Mynediad at Waith' y Ganolfan Byd Gwaith i helpu i dalu am gostau offer neu addasiadau. Does dim rhaid ichi dalu unrhyw beth tuag at hyn.