Gall y cyfarpar cywir wneud gwahaniaeth mawr i'ch gallu i fyw'n annibynnol yn eich cartref. Mae'n syniad da ceisio cyngor arbenigol a rhoi cynnig ar gyfarpar cyn i chi ei brynu.
Os nad ydych chi'n siŵr pa gyfarpar y mae ei angen arnoch, efallai y bydd yr erthygl 'Cyfarpar i'w ddefnyddio o gwmpas y cartref' yn gyflwyniad defnyddiol i'r mathau o gyfarpar sydd ar gael.
Gall therapyddion galwedigaethol roi cyngor penodol am eitemau unigol o gyfarpar anabledd. Gallant hefyd helpu os ydych chi newydd ddod yn anabl ac yn ansicr pa gyfarpar y mae ei angen arnoch.
Gallwch ganfod therapydd galwedigaethol drwy adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. Gallant ymweld â chi yn eich cartref a'ch helpu i benderfynu pa gyfarpar sy'n iawn ar gyfer eich ffordd o fyw.
Dylech roi cynnig ar bob cyfarpar cyn ei brynu. Os ydych chi'n ystyried prynu eitem ddrud, gofynnwch am gael defnyddio'r cyfarpar am gyfnod prawf yn eich cartref.
Mae'r Sefydliad Byw gydag Anabledd yn helpu pobl hŷn a phobl anabl i ganfod cyfarpar i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Dyma rai o'r gwasanaethau y gallant eu cynnig:
Mae'r sefydliad hefyd wedi lansio gwasanaeth ar-lein i helpu i ddewis cynhyrchion o gwmpas yr ystafell ymolchi, gan gynnwys baddonau, cawodydd ac eitemau sy'n gysylltiedig â gofal personol. Mae'r wefan 'Defnyddio'r baddon yn rhwydd' yn rhoi gwybodaeth ddiduedd am ddim am bob cynnyrch sydd ar gael yn y DU.
Mae Canolfannau Byw gydag Anabledd yn rhoi cyfle i bobl anabl roi cynnig ar amrywiaeth eang o gyfarpar. Maent hefyd yn cynnig cyngor annibynnol a di-dâl ynghylch pa gynnyrch sydd ar gael, y gost ac o ble y gellir cael gafael arnynt
Gall Assist UK, sy'n arwain y rhwydwaith genedlaethol o Ganolfannau Byw gydag Anabledd, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich canolfan leol. Mae gan gwefan Assist UK gyfleuster chwilio ar-lein, neu gallwch gysylltu â hwy ar y ffôn/ffôn testun.
Rhif ffôn: 0870 770 2866
Ffôn testun: 0870 770 5813
Os ydych chi'n cael taliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol i drefnu a thalu am eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun, cewch ddefnyddio'r arian sut bynnag y dymunwch, cyn belled â'i fod at ddiben diwallu eich anghenion asesedig.
Cewch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu neu logi cyfarpar anabledd neu i atgyweirio cyfarpar a'i gynnal a'i gadw.
Os ydych chi'n bwriadu defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am gyfarpar, dylech gael gwybod ai chi ynteu adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol fydd yn berchen y cyfarpar a phwy fydd yn gyfrifol am ei gynnal a'i gadw.
Dylech wirio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol cyn prynu unrhyw gyfarpar mawr, gan fod rhaid i gynghorau lleol sicrhau eich bod yn defnyddio eich taliadau uniongyrchol i ddiwallu eich anghenion asesedig am gost sy'n rhesymol yng ngolwg y cyngor.
Os ydych chi'n dymuno prynu cyfarpar sy'n ddrutach na'r un y mae eich cyngor lleol wedi cytuno i dalu amdano, efallai y gallwch dalu amdano drwy gyfuniad o daliadau uniongyrchol a'ch arian eich hun. Siaradwch â'ch cyngor lleol cyn gwneud hyn, oherwydd gallai gwahanol gynghorau fod â gwahanol bolisïau.
Efallai y caiff rhai eitemau cyfarpar mawr eu disgrifio fel addasiadau, a chyfrifoldeb adran dai eich cyngor lleol yw'r rheini. Efallai y bydd gennych hawl i gael Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i helpu i dalu am y rhain.
Does dim rhaid i bobl anabl dalu TAW pan fyddant yn prynu cyfarpar sydd wedi'i ddylunio ar gyfer pobl anabl, nac i addasu cyfarpar fel y gallant ei ddefnyddio.
Ceir amodau llym ynglŷn â'r math o gyfarpar sy'n gymwys i gael gostyngiadau TAW a phwy gaiff brynu cyfarpar heb dalu TAW. Gofynnwch i'r cyflenwr a yw'r cyfarpar yn gymwys ar gyfer gostyngiad TAW cyn ei brynu.
Yn aml, gallwch logi cyfarpar anabledd, naill ai yn hytrach na'i brynu neu fel ffordd o benderfynu a yw'r cyfarpar yn iawn i chi cyn ei brynu.
Mae rhai mudiadau anabledd yn cadw stoc o gyfarpar y byddant yn ei logi i aelodau ar sail tymor byr.