Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Byw'n annibynnol os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw

Mae'r cyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw yn cynnwys ffonau testun, dyfeisiau gwrando a dyfeisiau tynnu sylw, er enghraifft, clociau larwm a chlychau drws sydd wedi'u haddasu'n arbennig.

Gallwch gael offer a chyngor am y gwahanol fathau o gyfarpar a chymhorthion sydd ar gael gan y gwasanaethau cymdeithasol, adrannau awdioleg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a mudiadau gwirfoddol.

Ceir gwybodaeth yn yr adran 'Iechyd a Lles' am y gwasanaethau sydd ar gael i bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw, gan gynnwys profion clyw a chymhorthion clyw.

Cyfarpar a chymhorthion ar gyfer y cartref a’r gwaith

Mae cymorth ar gael gyda sefyllfaoedd bob dydd sy'n cynnwys teleffonau, ffonau testun a chyfarpar gwrando. Mae'r cymhorthion ychwanegol yn cynnwys dolenni sain sy'n gweithio gyda'ch teclyn clywed, larymau, clociau larwm, clychau drws ac addasyddion teletestun.

Cymhorthion ar gyfer y ffôn

Dyma declynnau i'ch helpu chi ddefnyddio'r ffôn:

  • setiau llaw gyda chyplyddion anwytho
  • sainchwyddwyr
  • clychau estynedig
  • arddangos testun

Typetalk yw'r gwasanaeth ffôn cenedlaethol a redir gan RNID ac a ariennir gan BT. Mae'n eich galluogi chi i gyfathrebu gyda phobl sy'n clywed dros y rhwydwaith ffôn, gan ddefnyddio un o weithredwyr Typetalk RNID.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth 24 awr y dydd. Mae'r gwasanaeth am ddim - dim ond talu am y galwadau y byddwch yn ei wneud.

Rhif Ffôn: 0800 731 1888

Ffôn testun: 0800 500 888

Clociau larwm a watshis

Gall clociau larwm ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw weithio mewn gwahanol ffyrdd. Dyma brif nodweddion y clociau:

  • maent yn dirgrynu o dan y gobennydd i dynnu sylw'r defnyddiwr
  • mae ganddynt olau sy'n fflachio
  • mae sain y larwm yn uwch na'r sain arferol

Gallwch hefyd brynu watshis sy'n dirgrynu.

Clychau drws a chyfarpar sy'n tynnu'ch sylw at seiniau yn eich cartref

Yn ogystal â chlychau drws sy'n tynnu'ch sylw gyda golau sy'n fflachio neu gloch swnllyd iawn, mae systemau eraill sy'n defnyddio sawl ffordd o dynnu'ch sylw ar gael y gallwch eu defnyddio ar gyfer seiniau yn y cartref, er enghraifft, pan fydd y ffôn yn canu.

Larymau mwg a diogelwch tân

Gallwch gael larymau mwg sy'n defnyddio golau strôb a phad dirgrynu i'ch rhybuddio os bydd tân.

Mae pad dirgrynu wedi'i ffitio'n arbennig ar larymau mwg pad dirgrynu sydd wedi'i gysylltu â'r larwm mwg a gellir ei roi o dan eich gobennydd neu fatres. Bydd y pad yn dirgrynu pan fydd y larwm tân yn canu.

Bydd goleuadau strôb sydd wedi'u ffitio ar larwm mwg yn taflu rhybudd golau strôb sy'n fflachio pan fydd y larwm mwg yn canu.

Mae larymau cysylltiedig wedi'u cysylltu â bob larwm mwg arall yn yr adeilad, a sicrhewch os bydd unrhyw larwm mwg yn canu, ei fod yn achosi i'r holl larymau cysylltiedig ganu. Mae hyn yn golygu hyd yn oed pe byddai'r tân yn eithaf pell oddi wrthych, byddwch yn gwybod amdano a gallwch adael yr adeilad cyn iddo ddod yn nes atoch.

Fe'ch argymhellir i gysylltu â thrydanwr cymwys i osod larymau cysylltiedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y larymau mwg hyn, cyngor ar gynllunio sut i adael adeilad a lle i fynd i gael cymorth a chyngor, llwythwch y llyfryn 'Diogelwch tân ar gyfer pobl ag anawsterau gweld, clywed a symud'.

Teledu ac adloniant yn y cartref

Mae isdeitlau teledu a defnyddio iaith arwyddion ar raglenni teledu'n gwneud teledu'n fwy hwylus i bobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol

Bydd asesiad gan eich gwasanaethau cymdeithasol lleol yn golygu y bydd arbenigwr o bosib yn edrych ar eich anghenion unigol er mwyn gallu darparu'r cymorth iawn, gan gynnwys cyfarpar. Efallai y byddwch yn derbyn taliadau uniongyrchol hefyd i'ch galluogi chi i ddewis a phrynu cyfarpar eich hun.

Cymorth cyfathrebu

Mae cymorth cyfathrebu yn cynnwys dehonglwyr, darllenwyr gwefusau ac ysgrifenwyr nodiadau Iaith Arwyddion Prydain. Dewch i gael gwybod sut y gellir trefnu hyn ac i gael enghreifftiau o gefnogaeth cyfathrebu mewn amgylchiadau penodol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU