Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Annibyniaeth yn y cartref

Os oes gennych chi nam neu gyflwr iechyd sy'n ei gwneud yn anodd byw ar eich pen eich hun, gallai gwneud addasiadau i'ch cartref neu gael cefnogaeth ychwanegol eich helpu i fyw yn eich cartref eich hun.

Byw yn eich cartref eich hun

Os ydych yn byw yn eich cartref eich hun, mae tri phrif beth i'w hystyried:

  • ydych chi'n derbyn y gefnogaeth angenrheidiol i wneud yn siwr y gallwch fyw mor annibynnol â phosibl?
  • oes gennych chi gyfarpar i'ch helpu chi o ddydd i ddydd?
  • a oes angen addasu'ch cartref mewn unrhyw ffordd?

Mae gennych hawl i gael asesiad o'ch anghenion gan adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol.

Yn dilyn asesiad iechyd a gofal cymdeithasol, gall therapydd galwedigaethol argymell cyfarpar a syniadau ar gyfer addasu'ch cartref.

Efallai fod gennych hawl i gael cymorth ariannol, megis Grant Cyfleusterau i'r Anabl, i dalu am addasu neu wella'ch cartref.

Cymorth i fyw'n annibynnol

Mae Asiantaethau Gwella Cartrefi'n sefydliadau nid-er-elw a all helpu gydag addasiadau i'ch cartref.

Mae'r Gronfa Byw'n Annibynnol yn darparu taliadau i bobl ag anableddau difrifol. Gellir defnyddio'r taliad i'ch helpu i fyw'n annibynnol, er enghraifft, drwy gyflogi cynorthwy-ydd personol

Cymorth gan eich cyngor lleol

Gall swyddfa dai eich cyngor lleol ddweud wrthych am wasanaethau'r cyngor ac am eiddo cymdeithasau tai yn eich ardal, a gallant roi cyngor ynghylch pa rai allai fod yn addas i chi.

Gall y swyddfa dai roi gwybod i chi hefyd am dai â chefnogaeth neu dai gwarchod ac am gartrefi gofal yn eich ardal.

Mae tai â chefnogaeth neu dai gwarchod yn galluogi pobl i fyw'n annibynnol ond gyda chefnogaeth ddyddiol ychwanegol.

Mae cartrefi gofal yn cynnig mwy o gefnogaeth nag y gellir ei darparu yn eich tŷ eich hun. Mae rhai'n cynnig gofal nyrsio amser llawn, tra bo eraill yn cefnogi pobl gydag anabledd penodol neu angen meddygol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU