Nod y Gronfa Byw'n Annibynnol yw eich helpu chi, os ydych chi'n ddifrifol anabl, i fyw'n annibynnol gartref yn hytrach na mewn cartref gofal preswyl. Gallwch ddefnyddio arian y gronfa i gyflogi pobl i roi gofal personol a domestig i chi yn eich cartref eich hun.
Gallwch wneud cais i'r Gronfa Byw'n Annibynnol:
Mae’r swm yr ydych yn derbyn yn seiliedig ar gost y gofal yr ydych angen, a chaiff ei chyfrif ar sail wrth yr awr neu wythnosol.
Y taliad uchafswm sydd ar gael yw £455 yr wythnos. Mae eich cynilion (cyfalaf), incwm a budd-daliadau a chostau penodol yn effeithio ar y swm yr ydych yn derbyn.
Mae gan y Gronfa Byw’n Annibynnol taflenni sy’n esbonio hyn yn fwy manwl.
Caiff taliadau'r Gronfa Byw'n Annibynnol eu talu'n syth i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn taliadau budd-daliadau. Gall hwn fod yn gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, mae'n bosibl i chi gael siec i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post.
Chaiff taliadau'r Gronfa hon ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill. Y rheswm dros hyn yw bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i ofalu amdanoch, ac felly, nid yw'n cael ei ystyried yn incwm.
Ond, bydd y Gronfa Byw'n Annibynnol yn ystyried hanner y Lwfans Byw i'r Anabl a'r Premiwm Anabledd Difrifol wrth wneud yr asesiad ariannol.
Gallwch ddefnyddio arian y Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am gyflogi asiantaeth gofal neu gynorthwy-ydd(wyr) personol i'ch helpu gyda thasgau personol a domestig gan gynnwys:
Efallai y gallwch chi gael gofal personol ar gyfer yr adegau pan fyddwch chi'n cymdeithasu neu yn y gwaith.
Chewch chi ddim defnyddio taliadau o'r Gronfa Byw'n Annibynnol i dalu am y canlynol:
Gallwch lwytho ffurflen gais o wefan y Gronfa Byw’n Annibynnol. Mae’r ffurflen yn cynnwys nodiadau i’ch cynorthwyo i’w llenwi.
Gallwch hefyd ofyn i adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol am ffurflen gais y Gronfa Byw’n Annibynnol.
Os mae’r Gronfa yn credu eich bod yn gymwys am daliad, bydd un o’i gweithwyr cymdeithasol yn cysylltu gyda’ch gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol i drefnu amser cyfleus i ymweld â chi i wneud asesiad uniad o’ch anghenion.
Pob dwy flynedd bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol yn adolygu eich amgylchiadau i sicrhau eich bod dal yn derbyn y lefel gywir o daliadau.
Bydd aseswr annibynnol a’ch gweithiwr cymdeithasol awdurdod lleol neu reolwr gofal yn ymweld â chi i adolygu. Gallwch hefyd ofyn am gael ffrind, perthynas neu gynorthwy-ydd personol yn y cyfarfod adolygu.
Dylech roi gwybod i'r Gronfa Byw'n Annibynnol cyn gynted ag y bo modd os bydd eich amgylchiadau'n newid oherwydd fe allai hynny olygu bod eich taliadau wythnosol yn cynyddu neu'n lleihau.
Os ydych chi'n anhapus am benderfyniad neu ddyfarniad gan y Gronfa Byw'n Annibynnol, cewch ofyn am 'adolygu penderfyniad' drwy ysgrifennu, anfon e-bost neu ffacs neu ffonio'r gronfa o fewn pedair wythnos i'r penderfyniad.