Mae'r cynllun Bathodyn Glas yn darparu ystod o gonsesiynau parcio i bobl â phroblemau symudedd difrifol sy'n cael anhawster wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Mae'r cynllun yn cael ei weithredu ar draws y DU.
Mae'r consesiynau a ddarperir drwy'r cynllun yn berthnasol i barcio ar y stryd yn unig.
Caiff deiliaid bathodyn barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio lle na chaniateir llwytho a dadlwytho. Mae cynlluniau lleol yn berthnasol mewn rhai lleoliadau, megis rhannau o ganol Llundain. Rhaid i chi arddangos eich Bathodyn Glas a'ch disg parcio i ddangos eich amser cyrraedd.
Nid oes terfyn amser ar gyfer parcio ar linellau melyn yn yr Alban.
Caiff deiliaid bathodyn barcio am ddim ac am gyn hired ag y mae angen iddynt wrth fesuryddion parcio ar y stryd a pheiriannau talu ac arddangos, cyn belled ag nad oes arwydd traffig yn pennu terfyn amser i ddeiliaid Bathodynnau Glas.
Os oes terfyn amser mewn grym, rhaid i chi hefyd arddangos y ddisg las arbennig ar gyfer parcio i ddangos eich amser cyrraedd.
Er bod y cynllun ar waith ledled y DU, ceir mân eithriadau yn y ffordd y mae'n cael ei weithredu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o'i gymharu â'r ffordd y mae'n cael ei weithredu yn Lloegr. Gweler y wefan berthnasol am ragor o fanylion.
Nid yw'r cynllun Bathodyn Glas yn weithredol mewn meysydd parcio oddi ar y stryd, ar ffyrdd preifat nac yn y rhan fwyaf o feysydd awyr.
Gallwch ddod o hyd i gynlluniau meysydd awyr sy'n dangos parcio i'r anabl ar y map Bathodyn Glas.
Nid yw'r cynllun yn gwbl berthnasol mewn pedair bwrdeistref yng nghanol Llundain:
Gallwch ddod o hyd i fannau parcio Bathodyn Glas yn y rhannau hyn o ganol Llundain ar y map Bathodyn Glas.
Mae deiliaid y Bathodyn Glas yn cael eu heithrio'n gyfan gwbl rhag talu Tâl Atal Tagfeydd Llundain, ond mae'n rhaid i chi gofrestru â Transport for London (TfL) o leiaf 10 diwrnod cyn eich siwrnai, a thalu ffi cofrestru o £10. Unwaith yn unig y bydd angen i chi dalu'r ffi cofrestru. Gallwch lwytho ffurflen gofrestru oddi ar wefan TfL.
Rhif ffôn: 0845 900 1234
Ffôn testun: 020 7649 9123
Does dim rhaid i ddeiliaid y Bathodyn Glas dalu tollau ar rai croesfannau afonydd, pontydd a thwneli.
Mewn rhai achosion, bydd rhaid i chi wneud cais ymlaen llaw i fod yn gymwys i gael consesiwn.
Mae rhestr ar wefan yr Adran Drafnidiaeth o'r pontydd a'r twneli lle mae'r consesiynau'n berthnasol. Gallwch hefyd ddewis dangos tollau fel nodwedd ar y map Bathodyn Glas.
Gellir defnyddio Bathodynnau Glas - a elwir weithiau yn gardiau parcio i bobl anabl - ar draws y DU ac mewn rhai gwledydd Ewropeaidd eraill.
Mae'r Sefydliad Gyrwyr Safon Uwch, elusen annibynnol ar ddiogelwch ar y ffordd, yn cyhoeddi llyfryn sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am ddefnyddio'r Bathodyn Glas yng ngwledydd Ewrop. Gellir llwytho’r llyfryn oddi ar wefan y Sefydliad Gyrwyr Safon Uwch.
Mae gan y DU drefniadau parcio dwy-ffordd gyda gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd (UE). Nid oes trefniadau ffurfiol gydag unrhyw wledydd eraill ar hyn o bryd.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
Wrth deithio y tu allan i'r UE, mae'n well mynd â'ch bathodyn gyda chi a holi yn yr ardaloedd rydych chi'n ymweld â hwy a gewch chi ddefnyddio'r bathodyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan yr Adran Drafnidiaeth.
Byddwch yn gymwys yn awtomatig i wneud cais am fathodyn os ydych yn hŷn na dwy oed a bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael bathodyn os ydych yn hŷn na dwy oed a bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Os ydych yn rhiant i blentyn sy'n iau na dwy oed, cewch wneud cais am fathodyn ar ran eich plentyn os oes ganddynt gyflwr meddygol penodol sy'n golygu:
Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am roi Bathodynnau Glas ar gyfer parcio - cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais ar-lein. Dim ond ar gyfer cynghorau yn Lloegr y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.
Gall cynghorau lleol gymryd bathodyn oddi ar berson sy'n ei gamddefnyddio - er enghraifft, drwy adael i bobl eraill ddefnyddio'r bathodyn, neu os bydd anabledd person yn gwella fel nad ydynt bellach yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Os oes gennych fathodyn glas, dim ond er eich budd chi y gellir ei ddefnyddio. Os yw'r daith ar gyfer rhywun arall, a chithau'n deithiwr ac yn aros yn y cerbyd, allwch chi ddim defnyddio'r bathodyn dim ond i adael iddyn nhw fanteisio ar barcio am ddim.
Rhaid i Fathodynnau Glas fod wedi'u rhoi'n briodol a rhaid eu harddangos yn unol â rheoliadau. Dylid arddangos bathodynnau ar ddashfwrdd neu ar flaen y cerbyd gyda'r ochr sy'n dangos y symbol cadair olwyn yn wynebu ymlaen. Dylid symud bathodynnau o'r golwg pan nad yw'r consesiynau parcio'n cael eu defnyddio.
Mae'n drosedd i bobl eraill ar wahân i ddeilydd y bathodyn fanteisio ar gonsesiynau parcio'r cynllun. Os ceir person yn euog gall gael hyd at £1,000 o ddirwy ynghyd ag unrhyw gosb am y trosedd parcio cysylltiedig.