Mae rhan 3 Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn rhoi hawliau mynediad i bobl anabl mewn perthynas â'r seilwaith teithio, trafnidiaeth a moduro (gorsafoedd trenau, meysydd awyr ac asiantau teithio, er enghraifft).
Mae cerbydau'n dod o dan ddarpariaethau ar wahân yn y Ddeddf ac mae rheoliadau mynediad wedi'u cyflwyno i hwyluso mynediad i fysus a threnau. Mae pecyn tebyg ar gyfer tacsis yn cael ei ddatblygu.
Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, mae’r cyhoeddiad ‘Wheels within wheels: a guide to using a wheelchair on public transport', a gynhyrchwyd gan Ricability a’r Adran Drafnidiaeth, yn dweud i chi beth y gallwch ei disgwyl gan drenau, bysus, bysus moethus a thacsis mwy newydd.
Mae'r Ddeddf hefyd yn golygu bod gennych hawl i wybodaeth am drafnidiaeth (amserlenni, er enghraifft) ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr trafnidiaeth ei darparu yn y ffurf honno.
Er 31 Rhagfyr 2000, mae bysus a bysus moethus newydd a ddefnyddir ar wasanaethau lleol a rheolaidd, gyda mwy na 22 teithiwr, wedi gorfod cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus.
Mae rhai pobl anabl yn gymwys ar gyfer tocyn mantais bws. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu gwneud cais i’w cyngor lleol am docyn bws am ddim. Mae’r meini prawf cymhwyster yr un peth ar draws y DU, ond mae’r amseroedd ac ardaloedd ble gellir defnyddio’r tocyn yn amrywio rhwng Lloegr, Cymru a’r Alban.
Gallwch ddod o hyd i fanylion ynghylch tocynnau bws ar y dudalen ‘trafnidiaeth leol’.
Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, rhaid i yrwyr tacsis trwyddedig yng Nghymru a Lloegr gludo cun cymorth, cun tywys, cun clywed a chun eraill penodedig yn eu tacsis, a hynny heb godi tâl. Daeth dyletswyddau tebyg i rym ar gyfer cerbydau hurio preifat (minicabs) o 31 Mawrth 2004.
Er 31 Rhagfyr 1998, mae pob cerbyd trên newydd wedi gorfod cydymffurfio â Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Trên.
Dysgu gyrru
17 yw'r oed ieuengaf ar gyfer gyrru car, fodd bynnag, os ydych yn derbyn y gyfradd uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl (yr elfen symudedd), yr oed ieuengaf yw 16.
Yswiriant
Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, gall yswirwyr godi premiymau uwch ar bobl anabl dim ond os yw'r tâl ychwanegol yn seiliedig ar ddata ffeithiol neu ystadegol, neu os oes ffactorau perthnasol eraill sy'n nodi bod person anabl yn cyflwyno mwy o risg.
Sefydlwyd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl fel corff annibynnol i gynghori'r Llywodraeth ar anghenion cludiant pobl anabl ar draws y DU. Mae'r Pwyllgor hefyd yn rhoi cyngor ar y rhwystrau a wynebir gan bobl anabl sy'n cael eu creu gan y ffordd y mae dyluniad adeiladau, strydoedd a mannau agored yn cael eu rheoli a'u gweithredu a sut y gellid goresgyn y rhain.
Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd yn ffynhonnell dda o gyngor os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich gwahaniaethu mewn Addysg neu faes arall. Mae'r llinell gymorth Comisiwn Hawliau Anabledd yn darparu cyngor a gwybodaeth ynghylch y Ddeddf Gwahaniaethu Anabledd 1995 i bobl anabl, cyflogwyr, darparwyr gwasanaethau, ysgolion a chydweithwyr, a ffrindiau a theuluoedd i bobl anabl.
Ffôn: 08457 622 633
Ffôn testun: 08457 622 644
Ffacs: 08457 778 878
Mae'r llinellau ar agor ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm; dydd Mercher rhwng 8.00am a 8.00pm.