Mae'r Cerdyn Trên i Bobl Anabl yn caniatáu i chi brynu tocynnau trên am bris gostyngol. Gallech gael hyd at un rhan o dair i ffwrdd wrth brynu tocyn trên. Gallwch gael cerdyn blwyddyn neu gerdyn tair blynedd. Os oes oedolyn arall yn teithio gyda chi, gallant hwythau hefyd deithio am yr un pris.
I fod yn gymwys, rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf a restrir isod. Mae'r ffurflen gais yn rhestru'r prawf y bydd ei angen arnoch i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael y Cerdyn Trên.
Rydych yn gymwys:
Gall plant rhwng 5 a 16 hefyd fod yn gymwys i gael Cerdyn Trên i Bobl Anabl. Telir y pris arferol am docyn trên i'r plentyn, ond gall oedolyn deithio gyda'r plentyn am y pris gostyngol, sydd un rhan o dair yn rhatach na phris tocyn oedolyn.
I brynu Cerdyn Trên, rhaid i chi lenwi ffurflen gais a'i hanfon gyda chopi o brawf o hawl a'r ffi.
Gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Anabl neu ffonio'r llinell gymorth a gofyn iddynt anfon copi atoch.
I gael gwybodaeth fanylach, cysylltwch â llinell gymorth y Cerdyn Trên i Bobl Anabl.
Ffôn: 0845 6050 525
Ffôn testun: 0845 6010 132