Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bysiau a thocynnau bws

Mae teithio ar fysiau'n dod yn llawer haws, ac mae cynghorau lleol yn cynnig cynlluniau teithio am ddim yn ystod cyfnodau tawelach i bobl anabl sy'n byw yn eu hardal.

Bysiau

Mae bysiau unllawr a deulawr newydd wedi'u cynllunio i fod yn hwylus i bobl anabl, gan gynnwys defnyddwyr cadair olwyn.

Mae cynghorau lleol yn gadael i bobl gymwys yn sgil anabledd yn eu hardal deithio am ddim ar fysiau lleol yn ystod cyfnodau tawelach; ni chodir tâl am y tocyn bws.

Beth yw ystyr 'person cymwys yn sgil anabledd'?

Rydych yn gymwys yn sgil anabledd os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn ddall neu’n rhannol ddall
  • rydych chi'n hollol fyddar neu'n ddifrifol fyddar
  • nid ydych yn gallu siarad
  • mae gennych anabledd sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gerdded
  • nid oes gennych freichiau neu mae gennych ddiffyg defnydd hirdymor yn y ddwy fraich
  • bod gennych anabledd dysgu
  • byddech yn cael trwydded i yrru cerbyd modur dan Ran III Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 oherwydd adran 92 o'r Ddeddf (ffitrwydd corfforol) am resymau ar wahân i gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson

Tocynnau bws yn Lloegr

Ers 1 Ebrill 2008, mae gan bawb sy'n gymwys i deithio ar fysiau gyda chynlluniau mantais yn Lloegr hawl i deithio ar fysiau lleol yn unrhyw le yn Lloegr yn ystod cyfnodau tawelach.

Efallai y bydd cynghorau lleol yn cynnig manteision ychwanegol i'w preswylwyr, ond dim ond ar gyfer teithio mewn ardaloedd lleol y bydd y rhain yn berthnasol, ni fyddant yn berthnasol ym mhob man.

Gallai'r manteision ychwanegol gynnwys bod tocynnau bws yn ddilys ar gyfer teithio yn ystod awr brysur y bore; neu i'w defnyddio ar dramiau, trenau neu mewn tacsis. Mae rhai tocynnau hefyd yn ddilys i'w defnyddio mewn ardal ehangach, megis mewn sir neu ardal fetropolitan.

Os ydych yn byw ar y ffin gyda Chymru neu'r Alban, efallai y bydd gan eich awdurdod lleol drefniadau teithio gyda'r ardaloedd cyfagos a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio eich tocyn bws yn yr ardaloedd hynny hefyd.

Holwch beth mae'r cynllun yn ei gynnwys cyn teithio. Gall eich cyngor lleol roi mwy o wybodaeth i chi.

Tocynnau bws yng Nghymru

Yng Nghymru, os oes gennych hawl i gael tocyn bws, cewch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg o'r dydd a bydd gennych hawl i deithio ar fysiau lleol o fewn dalgylch unrhyw gyngor yng Nghymru.

Hefyd, mae rhai teithiau penodol sy'n mynd ychydig i mewn ac allan o Loegr. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Tocynnau bws yn yr Alban

Yn yr Alban, os oes gennych hawl i gael tocyn bws, gallwch ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol a gwasanaethau bysiau moethus sy'n teithio'n bell ar unrhyw adeg o'r dydd ledled yr Alban.

Hefyd, gallwch ei ddefnyddio ar wasanaethau i Gaerliwelydd ac oddi yno, ac ar wasanaethau i Berwick-upon-Tweed ac oddi yno, cyn belled â bod eich taith naill ai'n cychwyn neu'n dod i ben yn yr Alban. Nid yw'r tocyn yn ddilys ar gyfer teithio ar fws o fewn Caerliwelydd na Berwick-upon-Tweed.

Trafnidiaeth yr Alban sy'n gyfrifol am y cynllun hwn a bydd angen i chi wneud cais am Gerdyn Hawl i deithio am ddim.

Allweddumynediad llywodraeth y DU