Efallai y cewch chi ddisg treth am ddim os ydych chi'n berson anabl sy’n derbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu os oes gennych gerbyd i bobl fethedig.
I hawlio ‘eithriad’ rhag talu treth cerbyd, rhaid i'r cerbyd fod wedi'i gofrestru yn eich enw chi neu yn enw rhywun yr ydych yn ei enwebu i yrru ar eich rhan (enwebai). Ond, rhaid defnyddio'r cerbyd at eich dibenion chi yn unig (er enghraifft i siopa neu i nôl presgripsiwn). Os bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio gan yr enwebai neu rywun arall ar gyfer eu hanghenion personol hwy eu hunain, bydd yr eithriad yn cael ei golli a bydd rhaid talu cyfradd arferol y dreth cerbyd.
Cyn y gallwch chi gael disg treth am ddim, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif eithrio gan yr asiantaethau isod sy’n rhoi’r budd-dal. Bydd y dystysgrif eithrio’n dangos eich enw chi ac enw'r enwebai os ydych wedi enwebu rhywun i yrru ar eich rhan.
Does dim rhaid i rai cerbydau gael tystysgrif eithrio er mwyn trethu (gweler 'cerbydau’r methedig a 'cerbydau a logir dan gontract Motability' isod).
Os ydych chi'n hawlio cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
Dylech gysylltu â'r asiantaeth isod i ofyn am dystysgrif eithrio DLA 404.
Disability and Carer Benefits Directorate, Disability and Carers Service, Warbreck House, Warbreck Hill, Blackpool. FY2 0YE.
Rhif ffôn: 0845 712 3456
Ffôn testun: 0845 722 4433
Os ydych chi'n derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
Cysylltwch â'r asiantaeth isod i ofyn am dystysgrif eithrio WPA 442.
Service Personnel and Veterans Agency, Norcross, Thornton-Cleveleys, Lancashire. FY5 3GZ.
Rhif ffôn: 0800 169 2277
Ffôn testun: 0800 169 3458
Cewch eich disg treth am ddim yn un o ganghennau’r Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth. Gallwch ei adnewyddu bob blwyddyn ar-lein, dros y ffôn, yn bersonol neu drwy’r post.
Os ydych yn gwerthu eich cerbyd neu mae eich hawl yn dod i ben, dylech ddanfon y disg treth anabl i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Abertawe SA99 1AL.
Os nid ydych yn gymwys rhagor am dreth cerbyd eithrio, bydd angen i chi drethu eich car yn y dosbarth treth priodol a thalu’r gyfradd cywir o dreth cerbyd.
Does dim rhaid i chi gael tystysgrif eithrio er mwyn cael disg treth am ddim ar gyfer cerbyd i bobl fethedig. Rhaid i’r cerbyd fod wedi’i gofrestru yn eich enw chi, rhaid iddo fod yn pwyso llai na 509kg ac wedi'i addasu, ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd ar gyfer person anabl. Ond, does dim rhaid i’ch cerbyd fod wedi’i gofrestru nac arddangos disg treth os yw’n pwyso llai na 113.4kg, os yw’r cerbyd i'w ddefnyddio ar lwybrau troed yn unig ac os na all fynd yn gynt na 4 milltir yr awr.
Does dim rhaid i gerbydau a logir dan gontract Motability gael tystysgrif eithrio wrth drethu. Bydd Motability yn trefnu i drethu’ch cerbyd bob blwyddyn ac anfon disg treth yn syth atoch. Gan mai nhw sy’n cofrestru’r cerbyd ac yn dal y Dystysgrif Cofrestru gydol cyfnod y contract gyda'r cwmni, mae'n bwysig rhoi gwybod iddynt os bydd eich cyfeiriad neu’ch amgylchiadau’n newid i sicrhau eich bod yn derbyn eich disg treth ar amser.