Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd, nid yw hynny'n golygu o reidrwydd na allwch yrru, neu na chewch yrru. P'un a ydych chi'n yrrwr newydd neu'n yrrwr profiadol, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr meddygol neu anabledd a allai amharu ar eich gyrru.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA os ydych chi wedi dioddef neu'n dioddef ar hyn o bryd o nam a allai amharu ar eich gyrru.
Os oes gennych chi drwydded yrru ar hyn o bryd ac os oes gennych chi gyflwr meddygol neu anabledd 'hysbysadwy', rhaid i chi roi gwybod i'r DVLA ar unwaith. Ni ddylech chi ddisgwyl tan ei bod yn bryd adnewyddu eich trwydded.
Mae rhestr o gyflyrau meddygol ac anableddau 'hysbysadwy' i'w gweld drwy ddefnyddio'r ddolen isod. Mae'n cynnwys epilepsi, strociau a chyflyrau niwrolegol eraill hyd at broblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol a nam ar y golwg.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod i DVLA os yw eich cyflwr meddygol neu'ch anabledd wedi gwaethygu ers i chi gael eich trwydded, neu os byddwch chi'n datblygu cyflwr meddygol neu anabledd newydd.
Gallwch hefyd gael gwybod am ildio'ch trwydded yrru ac, os yw'n berthnasol, ailddechrau gyrru'n ddiweddarach, yn adran 'moduro' gyffredinol Directgov.
Mae'r elusen ymchwil Ricability yn cyhoeddi llyfrynnau wedi'u cyfeirio at fodurwyr ag anghenion penodol, gan gynnwys moduro ar ôl torri aelod o'r corff i ffwrdd, cael anaf i'r ymennydd neu strôc, a moduro gydag arthritis, parlys yr ymennydd, sglerosis ymledol neu dwf cyfyngedig.
Cyn i chi allu dysgu gyrru car (neu foped neu feic modur), rhaid i chi wneud cais am drwydded yrru dros dro. Os oes gennych chi gyflwr meddygol neu anabledd 'hysbysadwy', rhaid i chi ddatgan hynny ar y ffurflen gais.
Nod y DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i ni dderbyn eich cais. Gallai gymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol.
Mae Directgov yn cynnwys llawer o wybodaeth gyffredinol am foduro, o fod yn berchen ar gar, diogelwch ffordd a throseddu i blatiau rhif personol ac MOT.