17 yw'r oed ieuengaf ar gyfer gyrru car, ond os ydych yn derbyn cyfradd uwch y Lwfans Byw i'r Anabl (yr elfen symudedd), gallwch yrru yn 16.
Dylai pob gyrrwr newydd gael gwersi gyrru proffesiynol ac efallai y bydd gyrwyr anabl yn dymuno chwilio am hyfforddwyr gyda gwybodaeth arbenigol am eu hanghenion.
Efallai y byddwch yn hapusach gyda hyfforddwr sydd yn arbenigo mewn dysgu pobl anabl. Chwiliwch am hyfforddwyr sydd wedi gwneud cwrs arbennig - yn aml yng Nghanolfan Symudedd Banstead neu'r Labordy Ymchwil i Drafnidiaeth.
Gall hyfforddwyr profiadol ddysgu mwy na dim ond gyrru i chi, yn cynnwys:
Fwyfwy, mae ysgolion gyrru a hyfforddwyr yn gosod offer rheoli â llaw syml ar un neu fwy o'u ceir ac yn cynnig hyfforddiant arbenigol.
Efallai y gall Motability, y cynllun sy'n rhoi cyfle i bobl logi car neu fod yn berchen ar un, roi cymorth ariannol tuag at gostau gwersi gyrru. Gallai hyn hefyd gynnwys gwersi gyrru i berson a enwebwyd gennych chi, megis rhiant neu ofalwr.
Mae'n werth archebu eich profion theori ac ymarferol cyn gynted ag y bo modd oherwydd gall y rhestrau aros fod yn hir.
Rhaid i chi basio'r prawf theori cyn y gallwch archebu'r prawf ymarferol. Os na fyddwch yn pasio prawf ymarferol o fewn dwy flynedd i gymryd y prawf theori, bydd angen i chi wneud y prawf theori eto.
Mae dwy ran i'r prawf theori, adran amlddewis o 35 cwestiwn ac adran sgiliau rhagweld peryglon. Mae’n rhaid i chi basio dwy ran y prawf theori ar yr un adeg er mwyn cael eich tystysgrif pasio ar gyfer y prawf theori.
Fel arfer cynhelir profion theori mewn canolfannau prawf y gall defnyddwyr cadair olwyn eu defnyddio fel arfer ac maent yn cynnig cyfleusterau arbenigol ar gyfer pobl anabl. Ond, gellir gwneud trefniadau i chi sefyll y prawf gartref neu mewn canolfan wahanol os nad yw eich canolfan leol yn hwylus i chi.
Mae system y prawf theori wedi'i chynllunio i fod yn hwylus i bawb ac mae ar gael ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gall ymgeiswyr sy'n drwm eu clyw wylio fideo o'r prawf yn Iaith Arwyddion Prydain. Gellir addasu amodau'r prawf hefyd os oes gennych epilepsi sensitif-i-olau. Gallwch ofyn am amser ychwanegol ar gyfer elfen amlddewis y prawf theori.
Mae'n bwysig iawn crybwyll unrhyw ofynion arbennig sydd gennych pan fyddwch yn archebu'ch prawf gyda'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).
Rhowch wybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru:
Y prawf ymarferol
Nid oes gwahaniaeth pa mor ddifrifol yw'ch anabledd, bydd rhaid i chi sefyll yr un prawf gyrru â phob ymgeisydd arall.
Pan fyddwch yn archebu'ch prawf, rhowch wybod i'r Asiantaeth Safonau Gyrru:
Efallai y bydd gyrwyr anabl yn cael amser ychwanegol i wneud eu prawf. Gwneir hyn er mwyn i chi allu esbonio natur a phwrpas unrhyw addasiadau yr ydych yn eu defnyddio a rhoi amser ychwanegol i chi fynd i mewn ac allan o'r car.
Mae'r arholwyr wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddeall problemau arbennig a all godi yn sgîl anableddau.
Sut i archebu eich prawf theori neu eich prawf ymarferol
Cysylltwch â'r Asiantaeth Safonau Gyrru i gael rhagor o fanylion ac i archebu'ch prawf theori neu'ch prawf ymarferol. Gellir archebu'r prawf ar-lein hefyd.
Rhif ffôn : 0870 0101 372
Minicom: 0870 0106 372