Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau pobl anabl mewn bywyd bob dydd

Bydd yr erthygl hon yn eich helpu i gael gwybod am eich hawliau fel person anabl mewn agweddau gwahanol o fywyd, gan gynnwys ym maes cyflogaeth, iechyd ac addysg

Mynediad i siopau, caffis a gwasanaethau bob dydd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhoi hawliau mynediad pwysig i bobl anabl at wasanaethau o ddydd i ddydd, gan gynnwys siopau, tai bwyta, banciau, sinemâu a llefydd addoli.

Eich hawliau ym maes cyflogaeth

Mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl anabl am reswm sy'n gysylltiedig â'u hanabledd, ymhob agwedd ar gyflogaeth, oni ellir cyfiawnhau hynny.

Eich hawliau iechyd

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhoi hawliau mynediad pwysig i bobl anabl at wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, megis meddygfeydd, deintyddfeydd ac ysbytai.

Mae gennych hefyd hawl i wybodaeth am ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr gwasanaeth ei darparu ar y ffurf honno.

Eich hawliau ym maes addysg

Diwygiodd Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (DDA) gan ei wneud yn anghyfreithlon i ddarparwyr addysg gamwahaniaethu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr anabl ac oedolion anabl sy'n dysgu - ac i wneud yn siŵr nad yw pobl anabl dan anfantais o'u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.

Iechyd meddwl a'ch hawliau

Bydd llawer o bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd ystyried eu hunain yn 'anabl' - ond mae ganddynt hawliau dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ymdrin ag asesu a thrin pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl, a’u hawliau.

Mae'r Ddeddf Gallu Meddyliol yn anelu at amddiffyn pobl sydd ag anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl. Bydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2007 ac yn darparu canllawiau clir ar gyfer gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch pwy sy'n gwneud penderfyniadau ym mha sefyllfaoedd.

Eich hawliau - moduro a thrafnidiaeth

Mae gan bobl anabl hawliau mynediad pwysig o ran moduro, trafnidiaeth a'r seilwaith teithio (megis gorsafoedd trenau a meysydd awyr) dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd hefyd yn golygu bod gennych hawl i wybodaeth am drafnidiaeth (amserlenni, er enghraifft) ar ffurf sy'n hwylus i chi lle mae'n rhesymol i'r darparwr trafnidiaeth ei darparu yn y ffurf honno.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU