Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau anabledd

Mae'r Cenhedloedd Unedig (CU) wedi sefydlu confensiwn hawliau dynol rhyngwladol ar hawliau pobl anabl. Roedd y DU yn chwarae rhan weithredol wrth sefydlu'r confensiwn. Cred y llywodraeth y bydd yn chwarae rhan bwysig wrth amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl ar hyd a lled y byd.

Beth fydd y confensiwn yn ei wneud ar gyfer pobl anabl

Darn o gyfraith ryngwladol yw confensiwn hawliau dynol sy'n nodi dyletswydd gwledydd i amddiffyn hawliau dynol. Pan ddaw i rym, bydd yn rhwymo'n gyfreithiol unrhyw wlad sy'n ei dderbyn a'i gadarnhau.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn darparu safon a fydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ar gyfer hawliau dynol pobl anabl mewn un ddogfen. Bydd hyn yn helpu'r gymuned ryngwladol i roi pwysau ar wledydd y gallai eu gwaith ar hawliau anabledd fod yn well.

Bydd y gwledydd sy'n derbyn y confensiwn hefyd yn gorfod darparu adroddiad rheolaidd i'r Cenhedloedd Unedig am y camau y maent yn eu cymryd i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl anabl.

Roedd y DU ymhlith yr 82 gwlad gyntaf i lofnodi'r confensiwn ar 30 Mawrth 2007. Ers hynny, mae dros 135 o wledydd wedi llofnodi'r confensiwn, a 50 ohonynt wedi'i dderbyn. Wrth lofnodi, mae gwladwriaethau'n dangos eu bwriad o'i dderbyn a'i gadarnhau maes o law. Nod y DU yw cadarnhau a derbyn y confensiwn yng ngwanwyn 2009. Dechreuodd y broses seneddol a fydd yn arwain at dderbyn y confensiwn yn y DU ar 3 Mawrth 2009.

Gellir gweld cynnwys y confensiwn yn ei gyfanrwydd ar wefan 'enable' y Cenhedloedd Unedig. Mae'r safle yn rhoi gwybodaeth fanwl am waith y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl.

Sut mae cael gwybod mwy a sut mae cyfrannu

I gael gwybod mwy am yr hyn y mae llywodraeth y DU yn ei wneud yng nghyswllt y confensiwn, ewch i wefan y Swyddfa Materion Anabl, sy'n cynnwys gwybodaeth gyffredinol yn ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig.

Bu Dr Richard Light, yr ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl, yn cynrychioli pobl anabl o'r DU fel rhan o ddirprwyaeth y DU wrth negodi testun y confensiwn. Mae ei wefan annibynnol, 'Human rights and disability' yn anelu at godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol a hawl pobl anabl i gael mynediad atynt.

Sefydlwyd Disability Awareness in Action (DAA) i hyrwyddo hawliau pobl anabl ac i ddarparu rhwydwaith byd-eang ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.

Mae gan wefan DAA restr fanwl o elusennau a mudiadau yn y DU ac ar draws y byd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU