Er mis Rhagfyr 2006, mae dyletswydd gyfreithiol ar holl sefydliadau’r sector cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal ar gyfer pobl anabl.
Mae sefydliadau'r sector cyhoeddus yn cynnwys:
Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl (DCA) yn ymdrin ag amrediad cyfan gweithgareddau'r sector cyhoeddus – gan gynnwys llunio polisïau a gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y cyhoedd.
Rhaid i bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ystyried effaith eu gwaith ar bobl anabl, a chymryd camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ar sail anabledd. Dylai hyn olygu bod gan bobl anabl gyfleoedd gwell o ran cyflogaeth ac na fyddant yn wynebu camwahaniaethu, er enghraifft, wrth ddefnyddio gwasanaeth. Dylai hefyd helpu i hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl mewn bywyd bob dydd.
Ers 4 Rhagfyr 2006, mae awdurdodau cyhoeddus arwyddocaol wedi gorfod cyhoeddi 'Cynllun Cydraddoldeb Anabledd'. Y dyddiad ar gyfer ysgolion cynradd yn Lloegr oedd Rhagfyr 2007, ac ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, y dyddiad oedd Ebrill 2007. Rhaid i'r cynllun gynnwys y canlynol:
Flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r cynllun, mae angen llunio adroddiad blynyddol. Dylai hwn gynnwys crynodeb o'r camau a gymerwyd gan y sefydliad i gyflawni'r ddyletswydd, canlyniadau'r ymarfer casglu gwybodaeth, a sut y defnyddiwyd y wybodaeth.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl, a gallant gymryd camau cyfreithiol yn erbyn sefydliadau'r sector cyhoeddus os nad ydynt wedi gwneud yr hyn sy'n ofynnol.
Gallwch ganfod gwybodaeth am ddull gorfodi'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a'r effaith y mae'r ddyletswydd eisoes yn ei chael, ar eu gwefan. Ceir hefyd wefan arbennig sy'n cynnwys dogfennau cyfarwyddyd mewn amrywiol ffurfiau.
Y Comisiwn Hawliau Anabledd oedd yn gyfrifol am orfodi'r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl nes iddo gau ar 28 Medi 2007.