Yma, cewch wybod am y ddeddfwriaeth sydd ar waith i hyrwyddo hawliau sifil pobl anabl ac amddiffyn pobl anabl rhag gwahaniaethu.
Mae'r erthygl hon yn sôn yn bennaf am y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd. Drwy ddilyn y ddolen isod, gallwch ddysgu am eich hawliau mewn gwahanol agweddau ar fywyd, gan gynnwys cael mynediad at siopau, caffis a banciau a defnyddio'u gwasanaethau.
Nod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yw rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu. Ychwanegwyd yn sylweddol at y Ddeddf hon, gan gynnwys Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005. Mae'n awr yn rhoi hawliau i bobl anabl yn y meysydd canlynol:
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl. Mae hefyd yn caniatáu i'r llywodraeth bennu safonau sylfaenol er mwyn i bobl anabl allu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys manylion am y newidiadau a wnaed gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005.
Daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd i ben ar 28 Medi 2007, ond mae ei wefan yn dal ar gael ac ynddi ddigon o wybodaeth, gan gynnwys trosolwg byr gyda phwyntiau allweddol y Ddeddf. Mae hefyd yn darparu fersiynau llawn ar ffurf PDF (y ddwy Ddeddf) a Word (Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn unig).
Mae'r ddwy Ddeddf wedi'u cyhoeddi ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.
Mae'r Llyfrfa wedi cyhoeddi fersiynau papur o'r ddwy Ddeddf ac maent ar gael i'w prynu. Y rhifau ISBN yw ISBN 0105450952 ar gyfer Deddf 1995 ac ISBN 0105411051 ar gyfer Deddf 2005.
Gallwch hefyd archebu fersiynau Braille a phrint bras o'r Ddeddf drwy ffonio'r Llyfrfa ar 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk. Yr un rhifau ISBN â'r fersiynau print safonol sydd ganddynt.
Gallwch archebu fersiwn Hawdd ei Darllen am ddim (ISBN 0117035998) drwy ffonio'r Llyfrfa ar 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk
Gallwch archebu fersiwn fideo BSL o'r Ddeddf (ISBN 011703598X) ar wefan y Llyfrfa, drwy ffonio 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk.
Tâp Sain
Gellir archebu canllaw i'r Ddeddf am ddim ar ffurf tâp sain (ISBN 0117036005) ar wefan y Llyfrfa, drwy ffonio 0870 600 5522 neu drwy anfon e-bost i customer.service@tso.co.uk.